Os ydych yn byw yn neu o gwmpas Johnstown efallai bydd gennych ddiddordeb mewn digwyddiad sy’n cael ei gynnal ar 16 Awst ar Grîn Canolfan Gymunedol Heol Kenyon rhwng 10.30 am a 3.00 pm.
Fel rhan o’r cynllun mantais gymunedol, bydd Novus Solutions, sy’n gosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd yn eiddo’r Cyngor yn yr ardal, yn paentio adeilad Clwb Pêl droed Johnstown a bydd gwaith yn dechrau ar hyn ar 16 Awst.
I nodi dechrau’r gwaith, mae diwrnod gweithgareddau i bob oed wedi’i drefnu a fydd yn cynnwys paentio wynebau, raffl am ddim, lluniaeth a digon o weithgareddau i blant.
Bydd sesiynau hyfforddiant paentio Skills 4 Life hefyd a fydd yn rhoi awgrymiadau addurno defnyddiol i chi.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Mae cymalau Mantais Gymunedol yn cael eu cynnwys yn yr holl brif gontractau gyda’r Cyngor. Mae’r cymalau yn golygu bod yn rhaid i’r contractwyr sy’n gweithio gyda’r Gwasanaeth Tai ymrwymo i ‘roi rhywbeth ychwanegol’ yn ôl i’r economi leol trwy Gynlluniau Mantais Cymunedol.
Gall y cynlluniau gynnwys noddi prosiectau lleol megis gerddi cymunedol a thimau chwaraeon neu adnewyddu ysgolion, neuaddau pentref, canolfannau cymunedol neu unrhyw brosiect tebyg.
“diwrnod da iawn i’r gymuned”
Y Cynghorydd David A Bithell, Dywedodd yr Aelod lleol ac Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:
“Mae hwn yn argoeli i fod yn ddiwrnod da iawn i’r gymuned ac rwy’n gwybod bod y tîm pêl-droed yn edrych ymlaen yn fawr at gael adnewyddu eu cyfleusterau gydag ychydig o baent.”
Gallwch hefyd ganfod sut i gymryd rhan yng ngwaith ailbeintio cyfleusterau Tîm Pêl-droed Johnstown.
Meddai’r Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths:
“Mae’r Mantais Gymunedol yn rhan o gontract Novus gyda ni ac mae’n sicrhau gellir gwella’r gymuned maen nhw’n gweithio ynddi mewn rhyw ffordd. Yn Johnstown, y tîm pêl droed sy’n manteisio ac rwy’n gwybod y byddant yn hapus iawn pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau.”
Dylai rywun hebrwng plant drwy’r amser yn ystod y digwyddiad
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI