Byddwch yn debygol o fod yn ymwybodol o ddigwyddiadau Dydd Llun Pawb, lle bydd traddodiad dydd Gŵyl Banc yn Wrecsam yn cael ei atgyfodi ar gyfer Tŷ Pawb.
Bydd y ganolfan £4.5 miliwn, a ariennir ar y cyd gan Gyngor Wrecsam a Chyngor Celfyddydau Cymru, yn dod ag elfen newydd i Ganol Tref Wrecsam, gan ddwyn y celfyddydau ac arddangosfeydd diwylliannol ynghyd at farchnadoedd traddodiadol y dref.
Bydd digon o adloniant ar Ddydd Llun Pawb, fydd yn nodi agor cyfleuster newydd y celfyddydau, marchnadoedd a chymunedau.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Ond rydym eisoes yn edrych y tu hwnt i’r diwrnod agor.
Mae rhaglen gyfan o arddangosfeydd eisoes wedi eu trefnu ar gyfer blwyddyn gyntaf Tŷ Pawb, sy’n cynnwys:
- Wal Pawb – gosodiad celf mawr gan yr artist Katie Cuddon
- Dydd Llun Pawb ei hun, ac arddangosfa ddilynol yn dangos llwyddiant y digwyddiad
- “Ai’r Ddaear yw Hon?” arddangosfa grŵp yn edrych ar ddyfodol ein planed o safbwynt amgylcheddol, wedi ei dwyn ynghyd gan y curadur annibynnol Angela Kingston
- Bydd Wrecsam Agored yn dychwelyd, lle all unrhyw un, waeth be fo eu hoedran neu eu cefndir, gyflwyno gwaith celf.
- Gwaith Sifft – arddangosfa o waith gan artistiaid o gymuned y Sipsiwn, Romani a Theithwyr
- Tair arddangosfa deithiol sy’n cynnwys arddangosfeydd proffil uchel gan Gasgliad Cyngor y Celfyddydau a’r Cyngor Crefft. Bydd yr enwau enwog a phoblogaidd yn yr arddangosfeydd hyn yn cael eu cyhoeddi yn fuan iawn.
- Bydd “Cymunedau Gwehyddu” (teitl gweithio) yn arddangosfa fyw a gynhelir o flaen ac yn ystod arddangosfa’r Cyngor Crefft.
Bydd yr oriel hefyd ar agor i ofodau arddangos o’r enw “gofodau rhydd” – yn y cyfnodau rhwng arddangosfeydd sefydlog, bydd rhannau o’r oriel ar gael i grwpiau cymunedol neu randdeiliaid i arddangos eu gwaith eu hunain.
Dywedodd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae llawer o ddiddordeb wedi bod o ran beth fydd Tŷ Pawb yn ei gynnig i Wrecsam, ac mae pobl eisoes yn edrych ymlaen at Ddydd Llun Pawb.
“Rydym yn gwybod y bydd yr agoriad a dyddiau cynnar y cyfleuster newydd o ddiddordeb i’r cyhoedd, mae digwyddiadau ac arddangosfeydd eisoes wedi eu trefnu ar gyfer blwyddyn gyntaf Tŷ Pawb.
“Bydd manylion pellach ar yr arddangosfeydd unigolyn cael eu cyhoeddi fel bydd y dyddiadau’n agosáu.”
Bydd digwyddiadau yn parhau i gael eu cynnal yn Oriel Wrecsam ac yn adeilad Arcêd y De Marchnad y Bobl wrth i waith gael ei wneud ar Dŷ Pawb, gyda gweithgareddau i blant bob dydd Sadwrn gan gynnwys paentio wynebau a chrefftau.
Cynhelir dosbarthiadau darluniau bywyd yn Oriel Wrecsam bob nos Iau, a gan weithio ar y cyd gyda’r Cafe in the Corner a TWIG – mae gweithdai am ddim gyda chinio bob prynhawn dydd Mawrth.
Mae’r cerddor a’r adroddreg straeon Jacqui Bloor hefyd yn rhedeg cyfres o weithdai galw heibio Cerddoriaeth Piccolo yn Oriel Wrecsam rhwng 10am a hanner dydd bob dydd Llun a dydd Gwener, i fabanod a phlant bach hyd at 5 oed.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI