Digwyddiadau dychrynllyd, paent a chymysgeddau neu gêm syml i’r teulu. Beth bynnag rydych chi’n chwilio amdano dros hanner tymor, mae digon ar gael i chi mewn lleoliadau ar draws y sir.
Cymerwch olwg ar y rhestr isod a dechreuwch gynllunio…
26 Hydref-2 Tachwedd
Llwybr Glitzy Witch i blant, yn dechrau o Lyfrgell y Waun
9am-5pm
Mae Glitzy Witch yn dod i’r Waun i ddathlu Calan Gaeaf. Dilynwch yr hetiau gwrachod, ysgubau a ffyn hud o amgylch y Waun, a’u cyfrif wrth fynd! Bydd llythyren ar bob un, felly cofiwch fynd yn araf! Mae mapiau o’r llwybr ar gael o Lyfrgell y Waun am 40c neu gallwch ‘Hoffi’ tudalen y Glitzy Witch ar Facebook i gael map a thaflenni lliwio am ddim.
Hyd at Hydref 27
Gwaith-Chwarae
Mae oriel Tŷ Pawb wedi ei thrawsnewid yn faes chwarae antur enfawr fel rhan o’r arddangosfa Gwaith-Chwarae. Mae’r maes chwarae yn cynnwys bob dim i blant allu gwneud yr hyn maent yn ei wneud orau – chwarae.
Am ddim
26 Hydref
Clwb Celf i Deuluoedd, Tŷ Pawb
10am-12pm
Dewch i ymuno â’n digwyddiad celf a chrefft i deuluoedd! Bob dydd Sadwrn bydd gennym sesiwn dan arweiniad artist i blant a’u teuluoedd grwydro ein horielau a datblygu sgiliau dychymyg a chreu. Mae’n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01978 292144.
£2 y plentyn.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
28 Hydref
Dydd Llun Llanast yn yr Amgueddfa, Amgueddfa Wrexham
Sesiwn 1: 10.30-11.15am
Sesiwn 2: 11.30am-12.15pm
Dewch â lliain a dillad sbâr gyda chi, gan y bydd y plant yn siŵr o wneud llanast yn y sesiwn hon, a does gennym ni ddim llawer o gyfleusterau glanhau. Sesiynau galw heibio fydd y rhain. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01978 297460.
£2 y plentyn – am ddim i’r oedolyn
28 Hydref
Creu Bag o Bethau Da Calan Gaeaf, Tŷ Pawb
2-4pm
Dyluniwch ac addurnwch eich teganau, eich fferins a’ch bag eich hun. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01978 292144.
£2 y plentyn.
28 Hydref
Gemau Bwrdd i Deuluoedd, Llyfrgell Rhiwabon
3.30pm ymlaen
Dewch atom ni i chwarae rhai o’r gemau bwrdd clasurol i deuluoedd. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01978 822022.
AM DDIM
29 Hydref
Crefftau Creu i’w Cadw, Amgueddfa Wrecsam
10.30am-12.30pm
Dewch i greu llygad frawychus at Galan Gaeaf! Perffaith er mwyn chwilio am Wali a fydd yn cuddio yn yr amgueddfa dros hanner tymor Sesiwn alw heibio yw hon. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01978 297460.
£1.50 fesul llygad.
29 Hydref
Creu Mwgwd, Tŷ Pawb
2-4pm
Dewch i greu mwgwd brawychus yn barod at ddawns y bwystfilod! I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01978 844028.
AM DDIM
30 Hydref
Sesiwn stori a chrefftau, Llyfrgell Coedpoeth
2.30-3.30pm
Ymunwch â ni am sesiwn o grefftau a stori ym Mhlas Pentwyn. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01978 722920.
£1 y plentyn.
30 Hydref
Parti Calan Gaeaf, Plas Pentwyn, Coedpoeth
4-7pm
Dewch i ymuno yn ein Parti Calan Gaeaf. Croeso i chi wisgo gwisg ffansi. Addas i blant 4-12 oed. Mae’n rhaid i oedolyn oruchwylio’r plant drwy’r amser. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01978 722980.
30 Hydref
Clwb Ffilmiau i’r Teulu, Tŷ Pawb
2-4pm
Dewch i ymuno â’n clwb ffilmiau i’r teulu, lle byddwn yn gwylio Paranorman (PG). I archebu tocynnau, ffoniwch 01978 292093 neu ewch i www.eventbrite.co.uk.
£3 y pen, £10 am docyn teulu i 4
31 Hydref
Disgo Calan Gaeaf, Tŷ Pawb
5-7pm
Noson o gerddoriaeth, gemau a chrefftau i bob anghenfil a bwystfil brawychus! Addas i blant 3 oed a hŷn. Mae’n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch: 01978 292093.
£2.50 y plentyn.
1 Tachwedd
Cŵn Calan Gaeaf, Llyfrgell Brynteg
2-3pm
Dewch i gyfarfod Swyddog Addysg Dogs Trust, Bethan Richardson, gwneud gweithgareddau Calan Gaeaf hwyliog a dysgu sut i fod yn ddoeth gyda chŵn. Mae gwisg ffansi yn ddewisol. Welwn ni chi yno! Addas i blant oed ysgol gynradd. I gael mwy o wybodaeth neu i archebu lle, ffoniwch 01978 759523.
AM DDIM
1 Tachwedd
Labordy Celf, Tŷ Pawb
2-4pm
Dewch i ddarganfod eich doniau creadigol a chreu eich paent a’ch cymysgeddau eich hun! Addas ar gyfer pob oed. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01978 292093.
AM DDIM
1 Tachwedd
Sesiwn Stori a Rhigwm, Llyfrgell Rhiwabon
2.15pm ymlaen
Dewch i ymuno gyda ni am straeon, caneuon a rhigymau. Bydd yr offerynnau taro ar gael. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01978 822022.
AM DDIM
2 Tachwedd
Clwb Celf i Deuluoedd, Tŷ Pawb
10am-12pm
Dewch i ymuno â’n digwyddiad celf a chrefft i deuluoedd! Bob dydd Sadwrn bydd gennym sesiwn dan arweiniad artist i blant a’u teuluoedd grwydro ein horielau a datblygu sgiliau dychymyg a chreu. Mae’n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01978 292144.
£2
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD