Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Parcio am ddim er mwyn ychwanegu at atyniadau Nadolig Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Parcio am ddim er mwyn ychwanegu at atyniadau Nadolig Wrecsam
Y cyngor

Parcio am ddim er mwyn ychwanegu at atyniadau Nadolig Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 18, 2019 3:36 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Parcio am ddim er mwyn ychwanegu at atyniadau Nadolig Wrecsam
RHANNU

Mae’n bleser gennym gyhoeddi y gallwn gynnig parcio am ddim ym meysydd parcio’r cyngor yng nghanol y dref, ac eithrio Tŷ Pawb, ar ddiwrnodau penodol a fydd yn galluogi masnachwyr i fanteisio ar y cynnydd disgwyliedig yn nifer yr ymwelwyr i ganol y dref. Mae hyn yn dilyn llwyddiant parcio am ddim a gynigiwyd yn gynharach eleni ar gyfer Diwrnod Chwarae a’r Ŵyl Fwyd.

OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…

Bydd modd parcio am ddim yn Tŷ Pawb ar ôl 3pm bob dydd Gwener tan y Nadolig i gefnogi’r digwyddiadau Noson Ffilm.

Bydd ein dathliadau’r Nadolig yn dechrau ar 14 Tachwedd pan fydd y goleuadau’r Nadolig yn cael eu troi ymlaen, a bydd y cyfnod parcio am ddim ar ôl 3pm yn dechrau ar y dyddiad yma ac yn parhau tan 7 Rhagfyr pan fydd modd parcio am ddim ar ôl 10am. Mae’n bwysig ein bod yn annog cymaint o bobl â phosibl i ganol y dref yn ystod cyfnod prysur y Nadolig.

Mae’r meysydd parcio canlynol yn rhan o’r cynllun:

  • Canolfan Byd Dŵr
  • Y Llyfrgell
  • Cilgant San Siôr
  • Ffordd y Cilgant
  • San Silyn

Mae hyn yn ffordd o sicrhau y bydd parcio am ddim yn cefnogi’r holl ddigwyddiadau Nadolig

“Prif ddigwyddiadau Nadolig yw”

  • Troi’r goleuadau ymlaen, dydd Iau 14 Tachwedd
  • Marchnad Fictoraidd, dydd Iau 5 Rhagfyr
  • Siopa hwyr, nos Iau 12 a 19 Rhagfyr
  • Pentref Nadoligaidd, rhwng dydd Gwener, 13 Rhagfyr a dydd Sul 15 Rhagfyr

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Rydym yn hapus iawn gyda’r cynllun yma, yn enwedig mewn cyfnod o heriau ariannol.

“Mae gennym ddigwyddiadau ardderchog wedi’u trefnu dros gyfnod y Nadolig ac rydym yn awyddus i sicrhau y bydd ymwelwyr yn cael profiad gwych ac y gall masnachwyr fanteisio ar yr ymwelwr ychwanegol y mae digwyddiadau o’r fath yn eu denu.

“Mae ffioedd parcio bob amser yn uchel ar yr agenda, ac er na allwn ni gynnig parcio am ddim pedair awr ar hugain y dydd, rydym wedi edrych ar y sefyllfa i weld beth allwn ni ei wneud i fod o fudd i fasnachwyr a sicrhau ein bod ni’n derbyn yr incwm er mwyn parhau i gynnal a chadw ein meysydd parcio ar y lefel bresennol. Mae teledu cylch caeedig yn y mwyafrif o’n meysydd parcio, ac mae prisiau rhesymol ym mhob maes parcio. Yn dibynnu ar lwyddiant rhaglen digwyddiadau Hyrwyddo’r Nadolig, ac yn benodol y fenter ‘am ddim ar ôl 3pm’, dwi’n bwriadu cyflwyno adroddiad mewn cyfarfod o’r Bwrdd Gweithredol yn y dyfodol er mwyn ystyried cyflwyno’r fenter hon yn yr hir dymor.

“Mae pawb yn darllen am y problemau mewn meysydd parcio lleol a phreifat yng nghanol y dref, ac mae’n galonogol nad yw pobl yn cael yr un problemau ym meysydd parcio’r cyngor.”

Bydd pob cyfyngiad priffordd ac amseroedd aros yn berthnasol yng nghanol y dref a chynghorir modurwyr y byddant yn cael tocyn parcio os nad ydynt wedi parcio’n gywir.

Bydd modd parcio am ddim ar Sul y Cofio ar 10 Tachwedd hefyd.

Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/arolwg/977″] DWEUD EICH DWEUD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ydych chi dan 25 oed? Dyma eich cyfle i bleidleisio ar yr hyn sy’n bwysig i chi... Ydych chi dan 25 oed? Dyma eich cyfle i bleidleisio ar yr hyn sy’n bwysig i chi…
Erthygl nesaf Digwyddiadau Hanner Tymor Digwyddiadau Hanner Tymor

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English