Mae gennym lu o atyniadau ardderchog ar stepen ein drws yn Wrecsam.
Ac yn ddiweddarach yn yr haf, byddwn yn nodi degawd ers i rai o’n hatyniadau hanesyddol gorau dderbyn cydnabyddiaeth ryngwladol.
Bydd 27 Mehefin yn nodi 10 mlynedd ers y cofrestrwyd Traphont Ddŵr Pontcysyllte yn Safle Treftadaeth y Byd (WHS) gan UNESCO.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Rydym ni – ynghyd â phartneriaid ar Fwrdd Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte – wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau drwy gydol yr haf ac ymhell i mewn i’r hydref i ddathlu’r 10fed pen-blwydd, gydag ystod o ddigwyddiadau cymunedol a chelfyddydol yn digwydd ar draws arwynebedd 11 milltir yr WHS, yn ogystal â’r draphont ddŵr ei hun.
Ymhlith y digwyddiadau i ddod mae sesiynau adeiladu traphont ddŵr Lego yng nghanolfan ymwelwyr Glandŵr Cymru yn Nhrefor; gweithdy celf yng Nghorwen a Llangollen a reolir gan Gyngor Sir Ddinbych ; cystadleuaeth ffotograffiaeth dan arweiniad Cyngor Wrecsam i dynnu sylw at nifer o’r golygfeydd yn ardal yr WHS – a llawer mwy.
Ar 29 Mehefin, bydd diwrnod o hwyl cymunedol yn cael ei gynnal ym Masn Trefor, gyda chwryglau a chychod camlas yn agored i’r cyhoedd, amryw o stondinau a gweithgareddau cymunedol – a bydd Techniquest Glyndŵr wrth law i gynnig golwg agosach ar adeiladu traphontydd dŵr a phontydd.
Ond nid dyna fydd y diwedd ar yr hwyl – byddwn yn cael yr hwyl a’r goleuadau llachar arferol O Dan y Bwâu a bydd 10fed pen-blwydd y draphont ddŵr yn cael ei adlewyrchu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Ac fel rhan o’r dathliadau, rydym hefyd yn gwahodd plant i gymryd rhan mewn cystadleuaeth farddoniaeth, a allai eu gweld yn ennill taith ar hyd Camlas Llangollen mewn cwch wedi ei dynnu gan geffyl – cewch: fwy o fanylion am gystadleuaeth farddoniaeth ar wefan Glandŵr Cymru.
Cliciwch yma i gael rhestr lawn o ddigwyddiadau.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Cadeirydd Bwrdd Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte: “Mae’r Safle Treftadaeth y Byd yn ased aruthrol i ni yn yr ardal hon, ac yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf, mae wedi denu miloedd o bobl i’r rhan hon o Gymru.
“Roedd cydnabyddiaeth UNESCO yn haeddiannol iawn i’r ardal hon – nid yn unig oherwydd y modd yr adeiladwyd Traphont Ddŵr Pontcysyllte o haearn bwrw, y draphont ddŵr a’r draphont nodedig yn y Waun, ond hefyd yr 11 milltir o beirianneg sifil, a harddwch naturiol Rhaeadr y Bedol ger Llangollen.
“Yn ogystal â phrofi cynnydd yn ei boblogrwydd fel atyniad i dwristiaid, mae partneriaid hefyd wedi buddsoddi’n helaeth mewn gwella nodweddion a’r cyfleuster drwy gydol y Safle Treftadaeth y Byd, a gyda hynny, mae’n iawn ein bod yn cydnabod y pen-blwydd cofrestriad yr ardal gan UNESCO, a hefyd lefel y buddsoddiad a welwyd yn y safle yn ystod y ddegawd ddiwethaf.
“Hoffwn wahodd pawb i gymryd rhan yn y digwyddiadau hynny sy’n digwydd fel rhan o ddathliadau’r 10fed pen-blwydd – nid yn unig y diwrnod cymunedol sy’n cael ei gynnal ym Masn Trefor ar 29 Mehefin, ond hefyd y cystadlaethau eraill sydd i ddod i gydnabod pwysigrwydd arbennig Ardal Safle Treftadaeth y Byd.”
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU