Fel mewn blynyddoedd blaenorol, byddwn yn parhau i wagu eich biniau a chasglu eich ailgylchu fel yr arfer dros gyfnod y Pasg.
Felly os yw eich ‘diwrnod bin’ arferol ar ddydd Gwener neu ddydd Llun, byddwn dal yn gwagu eich bin fel yr arfer ar Ddydd Gwener y Groglith neu ddydd Llun y Pasg….ni fydd gwyliau’r banc yn effeithio ar unrhyw beth.
Parciwch yn ofalus – peidiwch ag atal ein lorïau bin rhag pasio
Ar brydiau, mae ein lorïau yn cael trafferth cyrraedd rhai strydoedd a chartrefi, oherwydd bod ceir wedi parcio ar ochr y ffordd. Mae hyn weithiau yn golygu na allwn wagu biniau pobl.
Gallwch ein helpu i osgoi hyn drwy gymryd gofal ychwanegol wrth barcio eich cerbydau ar eich diwrnod casglu. Rydym yn deall nad oes gan bawb dramwyfa neu garej, ac mae’r bobl hyn yn gorfod dibynnu ar barcio ar y stryd.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Ond os ydych chi’n gwybod y bydd eich biniau’n cael eu casglu, edrychwch ar eich stryd i weld os oes digon o le i’n cerbydau mawr allu cyflawni eu dyletswyddau’n ddiogel.
Cofiwch, mae ein lorïau yn drwm ac yn llydan, felly mae’n rhaid i’n gyrwyr fod yn sicr y gallant deithio ar hyd strydoedd a throi’r cerbyd heb achosi unrhyw ddifrod.
Diolch i chi am eich amynedd
Rydym yn gwybod ei bod yn hollbwysig i bawb yn Wrecsam gael gwagu eu biniau a chasglu eu hailgylchu ar amser, felly diolch am fod yn amyneddgar wrth i ni geisio delio gydag unrhyw gasgliadau a gollwyd.
Mae pwysau mawr ar ein gwasanaethau ar hyn o bryd, ond rydym yn gwneud ein gorau i ddelio gyda’r problemau rydym yn eu hwynebu.
Diolch i chi unwaith eto am eich cefnogaeth.
Mae hwn yn amser hynod o heriol i bawb yn y DU, ac effeithir ar ein bywydau dyddiol mewn pob math o ffyrdd.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19