Diweddariad sydyn…fel mewn blynyddoedd blaenorol, byddwn yn parhau i wagu eich biniau a chasglu eich ailgylchu fel yr arfer dros gyfnod y Pasg.
Felly os yw eich ‘diwrnod bin’ arferol ar ddydd Gwener neu ddydd Llun, byddwn dal yn gwagu eich bin fel yr arfer ar Ddydd Gwener y Groglith neu ddydd Llun y Pasg…ni fydd gwyliau’r banc yn effeithio ar unrhyw beth.
Ydych chi’n derbyn ein e-byst i’ch atgoffa am eich bin?
Pan fyddwch chi’n cofrestru i dderbyn y rhybuddion, fe fyddwch chi’n cael e-bost i’ch atgoffa cyn eich casgliad nesaf, ond mae hefyd yn ffordd dda i ni gysylltu â chi am unrhyw amhariadau allai effeithio ar y gwasanaeth.
Os hoffech chi e-byst i’ch atgoffa am eich bin, cliciwch yma a dilynwch y ddolen i gofrestru.
Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch
Os ydych yn cofrestru i dderbyn ein hysbysiadau e-bost ar Wybodaeth ac Argymhellion Ailgylchu, gallwn anfon ein straeon newyddion diweddaraf ac argymhellion i chi, er mwyn eich helpu i gael y mwyaf allan o’ch ailgylchu, cyngor lleol (gan gynnwys newidiadau sy’n effeithio arnoch chi), a manylion ar ymgyrchoedd sydd ar y gweill i chi gymryd rhan ynddynt.
Canolfan ailgylchu gwastraff y cartref
Hefyd, os ydych chi’n gwneud ychydig o waith glanhau dros y Pasg, mae ein tair Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor.
Mae’r safleoedd yn cynnig ystod ehangach o opsiynau ailgylchu, gan gynnwys ailgylchu podiau coffi, fepiau a chartonau, ynghyd â phren, plastigau caled a metelau.
Mae gan y tri safle hefyd ardal ar gyfer eitemau y gellid eu hailddefnyddio – i helpu i godi arian ar gyfer siop ailddefnyddio Hosbis Nightingale House yn Bryn Lane.
Gallwch roi eitemau, neu ymweld â’r siop ailddefnyddio i gael rhywbeth newydd i chi… a chefnogi economi gylchol gynaliadwy.
Nid yw’n rhy hwyr i gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd