Dim ond ychydig ddyddiau sydd yna i ddweud eich dweud am ein cynlluniau i fod yn sefydliad carbon niwtral.
Rydym yn ymgynghori ar ein “Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio” sy’n dangos yr hyn rydym wedi ei gyflawni hyd yma, yn ogystal â’r hyn rydym yn ei gynllunio ar gyfer y dyfodol, a byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn chi.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Mae’r Cynllun yn canolbwyntio ar bedwar maes:
- Mae’r Cynllun yn canolbwyntio ar bedwar maes:
- Adeiladau
- Cludiant a Symudedd
- Defnydd Tir
- Caffael (y ffordd yr ydym yn cael gafael ar ein nwyddau a’n gwasanaethau)
Yn ogystal ag amlygu’r gwaith yr ydym eisoes wedi’i gwblhau yn y meysydd pwysig hyn, mae hefyd yn darparu manylion am ein cynlluniau dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf mewn perthynas â’r pedwar maes.
Adeiladau:
- Uwchraddio goleuadau LED
- Technoleg pwmp gwres ar gyfer adeiladau mawr
- Gosodiadau PV a storio batri ar draws ein hysgolion, swyddfeydd a chanolfannau cymunedol
- Ailwampio cynaliadwy a charbon isel ein swyddfeydd ac ysgolion
- Ymgorffori technolegau clyfar ac arloesol o fewn ein portffolio adeiladau.
Cludiant a Symudedd
- Ehangu ein fflyd o gerbydau trydan ymhellach.
- Parhau i ehangu ein rhwydwaith gwefru, ac addasu i’r galw cynyddol am yrwyr ceir trydan. Creu mwy o ganolfannau gwefru ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Defnydd Tir
- Ymchwilio i safleoedd ar gyfer cynlluniau plannu coed ar draws y Fwrdeistref Sirol.
- Datblygu gosodiadau adnewyddadwy mawr, gan gynnwys technolegau arloesol.
Caffael
- Platfform Caffael. I sicrhau ateb cadarn, tryloyw ac amddiffynadwy ar gyfer gwerthuso cynigion ‘gwerth cymdeithasol’ a wneir gan gynigwyr yn erbyn blaenoriaethau allweddol y cyngor.
- Rheoli Contractau. Offeryn rheoli contractau a ddefnyddir i reoli darpariaeth contractau a’r ymrwymiadau gwerth cymdeithasol sy’n gysylltiedig â hwy.
- Ateb i roi gwybod am ddarpariaeth Gwerth Cymdeithasol ar lefel prosiect, adran a’r Cyngor yn gyffredinol. Bydd hyn yn cynnwys mynediad at ddata heb fod yn ariannol (e.e. nifer y mentrau carbon) a data ariannol (e.e. £ gwerth a gynhyrchwyd drwy ostyngiadau carbon)
Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae bron i 500 o bobl wedi mynegi eu barn ond hoffem glywed gan fwy fyth o bobl. Mae ein hamgylchedd a newid hinsawdd yn rhywbeth sy’n effeithio arnom ni i gyd a bydd yn cael effaith ar y dyfodol a luniwn i’n pobl ifanc. Rydym am i’r dyfodol hwnnw fod yn llawer mwyn carbon gyfeillgar na’r hyn ydyw ar y funud. Rydym eisoes wedi gwneud cryn dipyn ond mae llawer mwy y gallwn ei wneud er mwyn dod yn garbon niwtral i’r dyfodol.
Dim ond ychydig funudau a gymer i lenwi’r ymgynghoriad ond bydd yn ein helpu i gwblhau Cynllun Gweithredu fydd yn gynaliadwy ac yn effeithlon er mwyn creu Wrecsam wahanol iawn i’n pobl ifanc.”
Gallwch gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG