Mae’r ceisiadau i’n cystadleuaeth Calendr wedi dechrau cyrraedd, ac maen nhw’n edrych yn arbennig o dda.
Mae’r beirniaid yn dechrau cyffroi ac yn gobeithio gweld detholiad o luniau sydd wedi cael eu tynnu yma yn y fwrdeistref sirol. A pham ddim, yma yn Sir Wrecsam mae tri o Ryfeddodau Cymru, dau eiddo gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a thraphont ddŵr ryfeddol Pontcysyllte.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Mae gennym y parciau gwledig hefyd, pensaernïaeth wych yn ein heglwysi a hen adeiladau, pontydd, camlesi ac wrth gwrs y sawl dyfrffordd sy’n llifo drwy’r fwrdeistref sirol. Mae’n rhaid i ni beidio anghofio’r digwyddiadau sydd wedi cael eu cynnal dros y misoedd diwethaf, Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi, Diwrnod Chwarae, O Dan y Bwâu neu ddathliadau’r Llu Awyr Brenhinol yn 100 oed.
Y dyddiad cau i anfon ceisiadau ydi 23 Hydref, felly mae yna ddigonedd o amser dal ar ôl i fynd allan a thynnu lluniau.
Dylid anfon ceisiadau i calendar@wrexham.gov.uk
“Tynnu llun ar unrhyw adeg o’r flwyddyn”
Gellir tynnu’r lluniau ar unrhyw adeg o’r flwyddyn gan ffotograffydd amatur ond mae’n rhaid iddynt fod yn rhywle o fewn y fwrdeistref sirol. Bydd 13 delwedd yn cael eu cynnwys yng Nghalendr 2019 – un ar gyfer y clawr ac un ar gyfer pob mis o’r flwyddyn. Sylwer y bydd maint y lluniau fydd yn cael eu hargraffu yn 295mm x 295mm ac felly dylai lluniau gael eu torri i’r maint hwn neu’n ddigon mawr i gael eu torri i’r maint hwn.
Pob lwc!
Telerau ac amodau’n berthnasol. Gallwch eu darllen yma.
Dyma enillwyr y llynedd:
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION