Diolch enfawr i bawb a roddodd yn hael i Apêl y Pabi yng ngêm Wrecsam vs Altrincham ddydd Sadwrn.
Anogwyd cefnogwyr a oedd yn y gêm i roi’n hael, ac roedd gwirfoddolwyr ar ochr y cae ac yn y standiau’n casglu arian ar gyfer yr achos.
Mae Apêl y Pabi wedi’i threfnu gan y Lleng Brydeinig Frenhinol, ac fe’i sefydlwyd ym 1921, yn fuan wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae gwisgo pabi yn dangos cefnogaeth i’n lluoedd arfog, a defnyddir yr arian a gaiff ei godi i helpu dynion a merched sy’n gwasanaethu, cyn-filwyr a’u teuluoedd.
Ymunodd Cefnogwr y Lluoedd Arfog Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, â’r gwirfoddolwyr yn y gêm a dywedodd ei bod yn hyfryd gweld pobl yn cefnogi’r tîm pêl-droed a’r apêl.
Dywedodd y Cynghorydd Parry-Jones, “Mae Wrecsam yn hynod o falch o’i gysylltiadau â’r lluoedd arfog, ac mae nifer o ddynion a merched o bob rhan o’r fwrdeistref sirol wedi gwasanaethu a gwneud aberthau hynod dros y blynyddoedd.
“Mae Apêl y Pabi yn fenter hyfryd sy’n darparu help hanfodol i staff y gwasanaethau arfog a’u teuluoedd – yn aml pan fyddant ei angen fwyaf.
“Hoffwn ddweud diolch yn fawr i bawb a roddodd yn hael yn y gêm ddydd Sadwrn. Efallai ei fod yn ymddangos yn fach, ond drwy brynu pabi rydych chi wedi helpu cymuned Wrecsam ddweud ‘diolch’ i’r dynion a’r merched dewr sy’n rhoi cymaint i’n gwlad.
“Os nad oes gennych chi babi eto, cofiwch gyfrannu a gwisgo eich pabi â balchder.”
Cafodd yr ymgyrch genedlaethol ei lansio ddydd Sul (30 Hydref), a chafodd ei nodi yn Wrecsam â gwasanaeth byr yn Llwyn Isaf – yn bresennol yr oedd y Cynghorydd Parry-Jones, Maer Wrecsam y Cynghorydd Brian Cameron, Beicwyr y Lleng Brydeinig Frenhinol a chefnogwyr allweddol eraill.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI