Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Diolch i Denantiaid a Staff y Cyngor
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Diolch i Denantiaid a Staff y Cyngor
Y cyngor

Diolch i Denantiaid a Staff y Cyngor

Diweddarwyd diwethaf: Mai 26, 2020 4:52 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Council Tenants Thanks
RHANNU

Mae staff yn ymwneud â thai ar draws Cyngor Wrecsam yn parhau i ddarparu eu gwasanaeth i denantiaid y cyngor. Gyda’n swyddfeydd stad ar gau rydym wedi gorfod addasu ein harferion gweithio tra’n parhau i ddarparu’r gwasanaeth y mae tenantiaid yn ei ddymuno. Rydym yn darparu gwasanaeth bach yn ein swyddfa yn Ffordd Rhuthun , tra bod gweddill ein timau yn gweithio o adref yn ymdrin ag ymholiadau dydd i ddydd, cynnal gwiriadau lles ayb. Hyd yma rydym wedi cysylltu â dros 10,000 o’n tenantiaid.

Mae ein tîm TG yn cadw pawb ‘arlein’ gan sicrhau fod gennym yr offer a’r wybodaeth ymarferol i wneud ein gwaith.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Rydym wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer y bobl sydd eisiau sefydlu Debydau Uniongyrchol i dalu eu rhent ac mae ein tîm Cyfrifon Rhent wedi bod yn eu cefnogi i wneud hyn.
Mae ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol yn parhau i gael eu diweddaru gyda gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol ar gyfer ein tenantiaid – felly os nad ydych yn ein dilyn ni’n barod, ewch i dudalennau Tai CBSW ar Facebook a Twitter @CBSWTai a @WBCHousing.

Ac nid yw’r gwaith caled yn dod i ben yn y fan honno!

Mae ein tîm Gorfodaeth Tenantiaeth yn ymdrin â nifer gynyddol o gwynion, yn arbennig am bobl nad ydynt yn glynu at y canllawiau’n ymwneud â chadw pellter cymdeithasol a hefyd ynglŷn â diflastod sŵn. Maent yn parhau i weithio gyda Heddlu Gogledd Cymru a’r rhai sy’n ymwneud â’r broblem er mwyn datrys y materion hyn. Yn ystod y cyfnod heriol hwn rydym yn galw ar bawb i ystyried eu gweithredoedd a sut maent yn effeithio ar ein cymdogion.

Mae ein Swyddog Tai Arbenigol yn dod o hyd i ffyrdd arloesol o helpu pobl. Gan weithio’n agos gyda chydweithwyr yn yr Adran Dai, Cymdeithasau Tai, Gofal Cymdeithasol Oedolion ac asiantaethau eraill, rydym wedi dyrannu 3 tŷ arbenigol i bobl anabl ac wedi cynorthwyo yn y gwaith o addasu eiddo i sicrhau y gall pobl gael eu rhyddhau o’r ysbyty, gan helpu i ryddhau gwelyau ysbyty. Rydym hefyd wedi sicrhau fod pobl ddigartref a diamddiffyn gydag anghenion arbennig ychwanegol yn cael eu lletya ac yn cael eu cefnogi.

Mae’r tîm Tai Gwarchod yn gofalu am rai o’n tenantiaid mwyaf diamddiffyn, ac maent yn gwneud llawer mwy na’r disgwyl i’w cefnogi. Yn ogystal â’u rôl o ddydd i ddydd, mae ein Wardeiniaid yn cynnig cymorth i sicrhau fod ein tenantiaid yn cael cymorth gyda siopa a meddyginiaethau, ac maent yn cynnig sgwrs gyfeillgar gyda’r rhai a allai fod yn teimlo’n ynysig yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Maent yn sicrhau fod yr unedau yn lân a diogel i’n tenantiaid eu defnyddio a bod mesurau yn ymwneud â chadw pellter cymdeithasol yn cael eu cynnal.

Canmolodd y Cynghorydd David Griffiths, yr Aelod Arweiniol dros Dai, y gwaith mae’r Timau Tai yn ei wneud a dywedodd “Rydym yn wynebu cyfnod anodd a digynsail a dwi’n falch iawn o’r modd y mae ein timau tai a’n tenantiaid wedi addasu i heriau o’r fath. Mae gweithwyr yn ein Gwasanaethau Tai yn gwneud gwaith gwych, yn brwydro yn erbyn yr heriau o weithio o adref tra’n cynnal gwasanaeth eithriadol i’n tenantiaid. Hoffwn fynegi fy niolch i bawb, yn denantiaid a staff, ac rwy’n gobeithio y byddwch i gyd yn aros yn ddiogel.”

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Active Travel Gwerth £3 miliwn o waith gwella Teithio Llesol wedi’i ddynodi yn Wrecsam
Erthygl nesaf Clwb Cylch Newyddion gwych! Bydd y Clwb Cylch ar-lein o 1 Mehefin i ddod â’r Gymraeg i’ch cartref

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi
Arall Pobl a lle
Awst 26, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English