Daeth grŵp o ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd Sant Joseff i ymweld â Neuadd y Dref yn gynharach yn yr wythnos diwethaf er mwyn holi cwestiynau i’r Cynghorydd David A Bithell, ein Aelod Arweiniol ar gyfer yr Amgylchedd a Chludiant.
Mae’r disgyblion wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Trefnu Cymunedol Cymru (TCC), elusen ar gyfer y gymuned sydd wedi’i lleoli yn Wrecsam, er mwyn dysgu mwy am effaith plastig ar yr amgylchedd – ac yn enwedig plastig untro.
Fel rhan o’u gwaith, roeddynt eisiau dysgu mwy am waith Cyngor Wrecsam i leihau eu defnydd o blastig untro a lleihau unrhyw effaith ar yr amgylchedd.
Yn ogystal â siarad gyda’r Aelod Arweiniol, fe wnaethant drosglwyddo llythyrau oedd yn cynnwys eu pryderon i bob aelod o Gyngor Wrecsam.
Dywedodd y Cynghorydd Bithell: “Roeddwn i’n falch iawn o gyfarfod disgyblion Ysgol Sant Joseff a chlywed yr hyn oedd ganddynt i’w ddweud am faterion megis torri lawr ar y defnydd o blastig untro, effaith newid hinsawdd a llawer mwy.
“Roedd eu hangerdd am yr hyn a drafodwyd yn ystod y bore’n amlwg iawn – ond llwyddodd lefel y cwestiynau a’u dealltwriaeth o ystod o faterion amgylcheddol i greu argraff arnaf i hefyd.
“Fe hoffwn ddiolch iddynt unwaith eto am ddod i fy ngweld a holi cwestiynau, ac mi faswn yn hapus i drafod y materion hyn gyda nhw eto yn y dyfodol.”
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!DOES DIM OTS GEN