Mae Ysgol Gynradd Gwenfro wedi cael wythnos brysur iawn wrth i ddisgyblion blannu 28 o goed i greu perllan ger eu hysgol.
Plannodd y disgyblion fathau traddodiadol o goed afalau, gellyg, eirin, ceirios ac eirin duon a ariannwyd drwy brosiect Isadeiledd Gwyrdd Wrecsam.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Gwasgodd y plant afalau i ddathlu’r berllan newydd.
Dywedodd Emma Broad, Swyddog Bioamrywiaeth ac Ecoleg: “Cawsom amser gwych a mwynhaodd y plant y gwaith plannu. Mae coed yn hanfodol i’n dyfodol a bydd y rhain yn fuan yn gartref i bob math o fywyd gwyllt, o adar i chwilod, a fydd yn gwella’r ardal am flynyddoedd i ddod.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN