Fe wnaeth Arweinwyr Digidol Ysgol Gynradd Gymunedol Parc Borras gymryd rhan yn #DiwrnodDefnyddio’rRhyngrwydynFwyDiogel (11 Chwefror), ond fe aeth yr ysgol hon un cam ymhellach drwy ymestyn y digwyddiad dros wythnos, a sefydlu ‘Wythnos Ddigidol.’ Yn ystod yr ‘Wythnos Ddigidol’, ymwelwyd â chartref ymddeol i ddysgu preswylwyr sut i aros yn ddiogel ar-lein.
Ymwelodd y plant ifanc â Chae Glo ar 12 Chwefror i roi cyflwyniad PowerPoint ar ddiogelwch ar-lein, roedd y cyflwyniad yn cynnwys pynciau megis diogelwch cyfrineiriau, gwe-rwydo, chwilio yn ddiogel, gosodiadau preifatrwydd, arwyddion o hacio, a gwirio am weithgarwch a chwcis amheus.
Mae’r Arweinwyr Digidol ynghlwm â phrosiect cynhwysiant digidol Llywodraeth Cymru, ‘Cymunedau Digidol Cymru,’ ac fe wnaethant gwblhau eu hyfforddiant Arwr Digidol ym mis Rhagfyr 2019. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar gefnogi’r gymuned leol â’u hyder, iechyd a lles digidol.
Mae Swyddogion Cymunedau Digidol Cymru wedi rhoi’r ysgol mewn cysylltiad â ClwydAlyn, sy’n rheoli cartrefi ar draws y chwe sir, i drefnu i’r Arweinwyr Digidol ymweld â’u preswylwyr yng Nghae Glo, Wrecsam, a oedd yn ddiwrnod gwych i bawb a gymerodd ran.
Fe wnaeth y disgyblion baratoi cwis ar gyfer y preswylwyr, a rhoddwyd cyfle iddynt arbrofi â phensetiau realiti estynedig. Mae’r ysgol yn annog disgyblion i gymryd diogelwch ar y we a dinasyddiaeth ddigidol o ddifri, ac yn eu hannog i ymddwyn yr un fath ar-lein ag y byddent oddi ar y lein, a dyma’r neges yr oeddent am ei phwysleisio yng Nghae Glo.
Meddai Lisa Jones, y Cydlynydd Dysgu Digidol, sy’n arwain yr Arweinwyr Digidol: “Rydym wedi sefydlu tîm o Arweinwyr Digidol o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 6 sy’n rhan hanfodol o Senedd ein hysgol. Mae ganddynt gyfrifoldebau amrywiol gan gynnwys paratoi a darparu gwasanaethau, addysgu a chefnogi staff a disgyblion â’u sgiliau digidol, dilyn y wybodaeth ddiweddaraf am y feddalwedd a’r apiau diweddaraf, yn ogystal â rheoli dyfeisiau yn yr ysgol.
“Rwyf wedi dotio at y ffordd y mae ein Harweinwyr Digidol yn gweithio gyda disgyblion ac aelodau o’r gymuned. Ymwelsom â Chae Glo fel rhan o Wythnos Ddigidol ein hysgol, ac rwy’n hynod falch.”
Mae’r disgyblion wedi gweithio’n galed iawn i gynrychioli eu hysgol fel Arweinwyr Digidol, ac rydym yn gwerthfawrogi hynny’n fawr.
Ychwanegodd Lisa: “Nid yw bod yn Arweinydd Digidol yn dasg hawdd. Roedd gofyn iddynt ymgeisio am y rôl drwy lenwi ffurflen gais, cyflwyno eu sgiliau digidol a chymryd rhan mewn cyfweliad. Rydym yn aml yn cyfarfod dair neu bedair gwaith yr wythnos… mae eu parodrwydd i roi o’u hamser yn ogystal â’u blaengarwch a’u syniadau yn parhau i’m rhyfeddu.
“Fel syrpréis, trefnais alwad Skype dirgel gydag ysgol yn Long Island, Efrog Newydd. Fel y gwelwch chi o’r lluniau, roedd y plant wedi cyffroi’n lân. Doedd y plant ddim yn gallu credu eu bod wedi siarad â disgyblion o Efrog Newydd!”
"I can't believe we have just spoken to children in New York" Our Digital Leaders were delighted to take part in a #mysteryskype with @JerichoUFSD @Iaccarino3Maria. A great way to finish our Digi Week off @HwbNews @SkypeClassroom pic.twitter.com/gEpBxVly4f
— Borras Park CP (@BorrasPark) February 14, 2020
Dyfyniadau gan yr Arweinwyr Digidol
Dyma rai sylwadau gan y disgyblion…
Meddai Alfie: “Rwyf wedi mwynhau helpu i ddysgu preswylwyr sut i aros yn ddiogel ar-lein a sgwrsio gyda nhw am gyfrifiaduron. Wnes i erioed meddwl y byddai’r preswylwyr eisoes yn defnyddio’r rhyngrwyd, felly roedd yn braf gweld eu bod nhw’n arfer ei defnyddio.”
Meddai Freya: “Rwyf wedi mwynhau paratoi a dysgu’r cyflwyniad PowerPoint yn ogystal â gweithio fel tîm i’w gyflawni. Fe wnaeth y preswylwyr gwblhau ein cwis, a chawsom lawer o hwyl yn eu marcio gyda’n gilydd gan sicrhau eu bod yn deall yr atebion.”
Meddai Finley: “Mi wnes i fwynhau ymweld â Chae Glo. Rwy’n teimlo bod y trigolion wedi dysgu llawer yn ystod y sesiwn. Mi wnes i wirioneddol fwynhau’r pensetiau realiti estynedig. Roedd y gacen goffi yn flasus hefyd!”
Dywedodd Lucas: “Rwy’n credu ein bod ni wedi dysgu’r preswylwyr am apiau newydd, megis TikTok, fe wnaethom ni hefyd ddweud wrthynt sut i aros yn ddiogel ar-lein. Mae’r preswylwyr wedi dysgu llawer gennym, a ninnau wedi dysgu llawer ganddyn nhw.”
Dywedodd Aled: “Cefais amser gwych yn dysgu nhw sut i aros yn ddiogel ar-lein, mi wnes i wirioneddol fwynhau treulio amser a defnyddio’r pensetiau realiti estynedig gydag Ann. Byddwn i wrth fy modd yn mynd allan eto i ymweld â phobl eraill i’w dysgu nhw am dechnoleg.”
Meddai Lenka: “Fe wnaeth rhai o’r preswylwyr newid eu cyfrineiriau i rai mwy diogel. Ar y cyfan, cawsom lawer o hwyl, gan fod nifer ohonynt eisoes yn gwybod llawer am y we.”
Dywedodd Rhys: “Mi wnes i fwynhau ymweld â Chae Glo a chyfarfod y bobl sy’n byw yno yn fawr. Roeddwn i wedi synnu eu bod eisoes â rhai sgiliau digidol, a rhai ohonynt yn bancio ar-lein.”
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.
RYDW I EISIAU TALU RŴAN