Mae disgyblion yn Ysgol Clywedog yn Wrecsam wedi bod yn plannu amrywiaethau hynafol o goed ffrwythau mewn ardal ar dir yr ysgol fel rhan o brosiect tyfu treftadaeth lleol.
Cysylltodd staff yr ysgol gyda’r tîm ym Mherllan Treftadaeth Brymbo flwyddyn yn ôl i drafod y posibilrwydd o gydweithio ar Brosiect Tyfu’r ysgol, sydd wedi cael ei ddatblygu gan y Grŵp Tasglu Gweithredu-Eco.
Wrth ymweld â’r ysgol, trafodwyd y posibilrwydd o greu perllan treftadaeth, ynghyd â chreu sudd afal a dysgu sut i ofalu am goed. Ar ôl clywed am y cynlluniau, roedd y disgyblion yn edrych ymlaen i fod yn rhan ac fe roddodd Perllan Treftadaeth Brymbo ugain o goed afal a phlwm i ddechrau’r prosiect.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Y llynedd, yn yr un cae, creodd y Grŵp Tasglu Gweithredu-Eco randir gan blannu cant a hanner o goed gan Goed Cadw.
Meddai Nicholas Brown, Pennaeth Daearyddiaeth Ysgol Clywedog: “Mae wedi bod yn wych dechrau gweithio gyda Pherllan Treftadaeth Brymbo ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth gyda’r prosiect cyffrous hwn.
“Gobeithio y gallwn gynaeafu ffrwythau mewn tua dwy flynedd, felly mae hwn yn bartneriaeth ac yn brosiect hirdymor ar gyfer disgyblion yr ysgol, a’r rhai sydd heb ymuno eto. Ni ddewisom amrywiaethau seidr gan nad ydym eisiau cynhyrchu alcohol, ond rydym yn edrych ymlaen yn fawr at greu sudd a phobi gyda’r ffrwythau.
“Ar ôl blwyddyn yn unig, rydym yn dechrau gweld mwy o fioamrywiaeth yn yr ardal a bydd hyn yn cynyddu ymhellach unwaith i’r coed ffrwythau newydd ddechrau sefydlu. Rwy’n credu ei fod yn hynod o bwysig i bobl ifanc gael profiad ymarferol trwy brosiectau fel hyn, lle gallent ddysgu am dyfu bwyd a’r buddion y gall hyn ei gael ar yr amgylchedd.”
Hana McGreary, athrawes Dylunio a Thechnoleg a drefnodd y diwrnod plannu. Dywedodd: “Roedd yn fore cynhyrchiol iawn, a gyda chymorth y disgyblion o deuluoedd gweithwyr allweddol, gyda rhai ohonynt yn aelodau o’r Tasglu-Eco, fe lwyddom i blannu deunaw o goed afalau treftadaeth a dau goeden plwm. Gweithiodd y disgyblion yn dda fel tîm er mwyn gosod y coed yn eu lle, paratoi’r tir a gosod y polion cefnogi. Roedd yn ddiwrnod gwych, a hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled.”
Roedd Daisy Pittaway, blwyddyn 9, yn un o’r disgyblion a gymerodd ran. Dywedodd: “Er ei fod yn waith caled plannu’r coed, cefais lawer o hwyl! Roeddwn wrth fy modd yn defnyddio’r offer mawr i wneud tyllau a throi y pridd. Pan fydd y coed yn dechrau tyfu, mi fyddaf yn gwybod bod yr holl waith caled wedi talu ei ffordd. Mae gwybod fy mod yn cyfrannu tuag at helpu’r amgylchedd yn deimlad boddhaus iawn. Mae ein clwb eco wedi gweithio’n galed iawn ar brosiectau gwahanol ac rwy’n teimlo’n falch iawn o gymryd rhan.”
Mae prosiect Tyfu’r ysgol eisoes wedi cyflawni nifer o wobrau ers dechrau ym Medi 2019, gan gynnwys: Gwobr Ysgol Aur Coed Gwyrdd Coed Cadw; Gwobr Arian ‘Roots and Shoots’ Jane Goodall; Gwobr Ysgol Efydd y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol a Gwobr Efydd Eco-Sgolion.
Fe wnaeth y disgyblion amgylcheddol hefyd ennill y wobr Cydweithio Rhyngwladol yn rownd derfynol yn y categori Gohebydd Ifanc yr Amgylchedd, mewn cydweithrediad â’u hysgol bartner, Colegio Enriquez Soler ym Melilla yn Sbaen. Roedd fideo’r disgyblion a ddaeth i’r brig, sef ‘Plastic Waste – An Intercontinental Problem’, yn amlygu effaith niweidiol a hirdymor plastigion untro ar yr amgylchedd.
Yn y gobaith o amddiffyn eu teitl, eleni mae’r disgyblion wedi cydweithio unwaith eto â disgyblion o Colegio Enriquez Soler, yn ogystal â dwy ysgol yn Beirut, Lebanon, i gynhyrchu fideo am newid plastig untro gyda deunyddiau y gellir eu defnyddio eto.
Mae cynlluniau hefyd yn eu lle i lansio Wythnos Eco Rhyngwladol ysgol gyfan, yn ddiweddarach yn y flwyddyn lle bydd disgyblion yn gwneud gweithgareddau ar y cyd ag ysgolion yn Lebanon ymhob pwnc, gan gynnwys gwasanaethau ar y cyd, coginio bwyd Cymreig a Libaneaidd, rhannu cerddoriaeth a chelf, mesur ansawdd yr aer, a chymharu’r ddwy ardal.
CANFOD Y FFEITHIAU