Mae disgyblion TGAU ar draws Wrecsam yn dathlu heddiw yn dilyn eu llwyddiant yn eu harholiadau.
Gwelwyd cynnydd yn y canran o ddisgyblion ar draws y Fwrdeistref yn ennill graddau A* at ym mhob pwnc, a gwellodd y ffigwr hwn mewn cymhariaeth a’r ffigyrau am Gymru i gyd.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Dylai disgyblion fod yn falch iawn gyda’r canlyniadau. Maent wedi gweithio’n galed iawn i’w cyflawni, ac maent yn haeddu cael eu llongyfarch am eu hymdrech.
“Diolch hefyd i ymdrechion athrawon a holl staff cymorth, a rhieni a gwarcheidwaid hefyd.”
Dywedodd Ian Roberts, y Pennaeth Addysg: “Mae disgyblion ar bob lefel gallu wedi gweithio’n galed iawn i gyflawni’r canlyniadau hyn, a diolch i’r holl ysgolion am y gwaith a’r lefel o gefnogaeth i ddisgyblion.
“Dymunaf y gorau i’r holl ddysgwyr, wrth iddyn nhw edrych i’r dyfodol yn eu llwybr dewisedig.”
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2018/pdga/?skip=1&lang=cy “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]