Yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd hawl tenantiaid cynghorau i brynu neu gaffael eu tai yn dod i ben ar 26 Ionawr 2019.
Gwnaed y cyhoeddiad ar ôl i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth newydd bwysig yn gynharach eleni.
Cyflwynwyd yr Hawl i Brynu am y tro cyntaf yn y 1980au ac roedd yn rhoi hawl gyfreithiol i denantiaid cynghorau brynu eu heiddo am bris gostyngedig.
Mae’r ddeddfwriaeth ddiweddar yn golygu y bydd yr Hawl i Brynu yn cael ei ddiddymu’n llwyr yng Nghymru.
Caiff tenantiaid cymwys gyflwyno cais Hawl i Brynu i’r Cyngor i fyny at, ac yn cynnwys 25 Ionawr 2019. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad hwn.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.
Meddai’r Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Mae hwn yn ddarn arwyddocaol o ddeddfwriaeth i Wrecsam ac i weddill Cymru. Bydd yn dod â chynllun sydd wedi bod yn ei le ers dros 30 o flynyddoedd i ben.
“Rydym yn anfon llythyrau at bob un o’n tenantiaid i roi gwybod iddynt am y newidiadau ac rydym hefyd wedi rhoi’r holl wybodaeth angenrheidiol ar-lein ac yn ein newyddlen ar gyfer tenantiaid.”
- I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen y cyngor ar yr Hawl i Brynu.
- Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
- Gallwch gysylltu â’ch swyddfa ystad leol am ragor o wybodaeth.
COFIWCH EICH BINIAU