Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae gwaith yn parhau i gael ei asesu yn Newbridge, serch hynny nid yw cyflwr y ffordd yn gwella ac mae mwy o graciau wedi ymddangos yn y seilwaith. Rydym yn parhau i weithio gyda’n hymgynghorwyr geodechnegol arbenigol er mwyn asesu’r difrod ac i feddwl am ddatrysiadau.
“Rydym yn parhau i fod mewn cyswllt gyda Llywodraeth Cymru ac rydym wedi cael trafodaethau arwyddocaol gyda swyddogion ynglŷn â’r hyn sydd ei angen. Nid ydym wedi cael sicrwydd am gyllid eto, a byddwn yn parhau fel Cyngor i roi pwysau ar weinidogion a gwleidyddion lleol i sicrhau cyllid.
“Yn y cyfamser mae’r gwyriadau yn parhau yn eu lle ac yn anffodus ni allwn ail-agor rhan o’r ffordd ar gyfer traffig unffordd ar hyn o bryd. Rydym ni’n gwybod bod hyn yn achosi anghyfleustra sylweddol i bobl leol a’r cymunedau cyfagos.”
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN