Bydd disgyblion y cyfnod sylfaen yn dychwelyd i ysgolion Wrecsam ddydd Gwener ac rydym ni’n ddiolchgar iawn i rieni a gofalwyr sydd wedi gwneud gwaith penigamp yn addysgu eu plant gartref yn ystod cyfnod anodd dros ben.
Er bod hyn yn newyddion da iawn i bawb sy’n ymwneud ag addysg pobl ifanc, dydi hyn ddim yn rheswm i ni roi’r gorau i fod yn wyliadwrus.
“Mae llawer o gyfyngiadau ar waith o hyd i leihau cyfraddau trosglwyddo”
Meddai’r Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Rydym ni’n falch iawn o weld plant yn dychwelyd i’n hysgolion ond mae llawer o gyfyngiadau ar waith o hyd i leihau cyfraddau trosglwyddo Covid-19 yn ein cymunedau. Mae’n rhaid i bob un ohonom ni barhau i fod yn amyneddgar am ychydig bach eto i wneud yn siŵr nad ydym ni’n mynd yn ôl i’r cychwyn cyntaf pan oedd gennym ni’r nifer mwyaf o achosion positif yng Nghymru.
“Gofynnwn yn garedig i chi barhau i weithio gartref os yn bosibl, i wisgo masg wyneb pan fyddwch chi’n mynd â’ch plant i’r ysgol a’u nôl nhw ac i beidio â sefyll o gwmpas y gatiau yn siarad efo rhieni eraill. Mae swigod ysgol yn berthnasol yn yr ysgol ac felly ni ddylai plant fod yn cymysgu y tu allan i’r ysgol. Hefyd, dim ond pedwar person a ddwy aelwyd wahanol sy’n gallu cwrdd y tu allan i wneud ymarfer corff.
“Os cadwn ni at hyn yna gobeithio y gallwn ni weld cynnydd pellach o ran codi cyfyngiadau ac anfon ein plant hŷn yn ôl i’r ysgol.”
Mae angen eich help arnom i reoli lledaeniad Coronafeirws pic.twitter.com/hSEXu0fua7
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) February 23, 2021
CANFOD Y FFEITHIAU