10.45am
Mae pob Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor fel arfer. Mae ffyrdd a llwybrau cerdded wedi’u graeanu a’u clirio o eira.
Mae Ty Pawb ar agor fel arfer.
10.00am
Mae Llyfrgell a Chanolfan Adnoddau Cymunedol Brynteg ar gau.
9.35am
Gallwch roi gwybod i’r Cyngor am unrhyw faterion brys (llifogydd, difrod oherwydd storm, coed wedi cwympo ac ati) ar y rhifau canlynol:
(24 wr) 01978 298989
Gwaith trwsio ar dai tenantiaid y Cyngor (24 awr) 01978 298993. Ar ôl oriau gwaith yn unig, gallwch hefyd anfon e-bost at wrexhamemergency@deltawellbeing.org.uk.
Ffoniwch ni os yw’n fater brys yn unig – ar gyfer materion eraill, helpwch ni trwy roi gwybod am faterion ar-lein:
Materion cyffredinol: https://www.wrexham.gov.uk/service/contact/report-it
Gwaith trwsio tai: https://myaccount.wrexham.gov.uk/en/service/Housing_repairs_form
Gallwch roi gwybod am unrhyw faterion o ran colli trydan trwy ffonio 105. (Mae Powercut 105 yn wasanaeth am ddim a fydd yn eich cysylltu â gweithredwr yn eich rhwydwaith lleol am gymorth a chefnogaeth).
Cofiwch, os oes perygl uniongyrchol i fywyd yn ystod unrhyw dywydd gwael, dylech ffonio 999 bob tro.
9.10am
Mae swyddfeydd ystadau tai ar agor- ond gall amseroedd agor bod yn newidiol
Yr Hwb Lles (Adeilad y Coron ar Stryd Caer) ar gau.
8.50am
Mae Galw Wrecsam (yn Llyfrgell Wrecsam) yn parhau i fod ar gau / ar agor – ond gallwch ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein neu trwy ddefnyddio ein rhifau ffôn a gyhoeddwyd.
Mae casgliadau bin gwyrdd heddiw wedi’u gohirio oherwydd y tywydd. Byddwn yn eich diweddaru cyn gynted â phosibl wrth i bethau wella.
A fyddech cystal â chyflwyno ailgylchu i chi fel arfer a byddwn yn gwneud pob ymdrech i’w gasglu.
8.30am
Mae gennym drwch o eira…
Mae ysgolion wedi diweddaru rhieni ynglŷn â chau. Edrychwch yma i weld os yw ysgol eich plentyn ar agor: Pob ysgol sydd wedi cau | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Cymerwch ofal a chadwch yn ddiogel yn yr eira.
Diolch am eich amynedd. Mae ein timau wedi bod yn gweithio’n galed iawn dros y 24 awr ddiwethaf – yn graeanu ac yn aredig yn yr eira – ac rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr.
Mwy o fanylion i ddilyn.