Rydym yn hynod falch ac yn gyffrous i gefnogi Ymddiriedolaeth Gymunedol a Diwylliant Wrecsam wrth iddynt weithio tuag at ddod â theitl Dinas Diwylliant y DU 2029 i Wrecsam.
Ers cael drwodd i’r rownd derfynol yn 2025, rydym wedi adeiladu ar y momentwm a’r profiad a gafwyd o’r cyflawniad hwnnw, ac yn anelu at gyflwyno ymgyrch ysbrydoledig, dan arweiniad y gymuned, sy’n dathlu diwylliant, treftadaeth ac egni creadigol cyfoethog y sir.
Bydd Ymddiriedolaeth Gymunedol a Diwylliannol Wrecsam yn dod â phartneriaid, rhanddeiliaid a thrigolion o bob cwr o’r rhanbarth a Chymru ynghyd i greu rhaglen fywiog sy’n adlewyrchu ein cymeriad unigryw a’n huchelgeisiau.
Bydd y fenter yn arddangos y creadigrwydd, y cynhwysiant a’r gwydnwch sy’n diffinio’r sir, gan gryfhau ein hunaniaeth ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.
Byddai sicrhau teitl Dinas Diwylliant y DU 2029 yn arwain at fanteision cymdeithasol ac economaidd parhaol i Wrecsam, gan greu swyddi, denu buddsoddiad, cefnogi artistiaid lleol, ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, gyda chyfrifoldeb dros Ddinas Diwylliant “Cryfder ein cais yn 2025 oedd ein cyfranogiad a’n hymgysylltiad cymunedol. “Ers hynny, rydym wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni yn datblygu a chryfhau ein cysylltiadau a’n cynigion diwylliannol. “Bydd ein cais am Ddinas Diwylliant 2029 unwaith eto yn ddathliad o’n cymunedau a’n diwylliannau amrywiol wrth i ni geisio rhannu ein straeon yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bydd gwaddol y cais hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad parhaus y celfyddydau a diwylliant ar draws y fwrdeistref sirol.”
I ddarganfod mwy am y cais a’r hyn y gallai ei olygu i Wrecsam, ac i gofrestru ar gyfer y rhestr bostio i dderbyn y newyddion a’r diweddariadau diweddaraf, ewch i www.wrecsam2029.wales/cymraeg

 
  
  
  
  
  
 
