Diweddaru 14.15 👉
- Llyfrgell Brynteg – ar gau
- Llyfrgell Cefn Mawr – ar agor heddiw 11:30am-4pm
- Llyfrgell y Waun – ar agor heddiw 10.30am-4pm
- Llyfrgell Coedpoeth – ar gau
- Llyfrgell Gwersyllt – ar agor
- Llyfrgell Llai – ar agor
- Llyfrgell Owrtyn – ar agor
- Llyfrgell Rhos – ar agor heddiw 10am-4pm
- Llyfrgell Rhiwabon – ar gau
- Llyfrgell Wrecsam – ar agor heddiw 9:30am-6pm
Diweddaru 13.15 👉
Mae’r haul yn gwneud rhywfaint o waith da ac rydym yn gweld dadmer cyflym ar hyn o bryd ☀
Mae gennym ddiweddariad ar gasgliadau gwastraff…
Roedd llawer o’r trigolion eisoes wedi gosod eu biniau / ailgylchu cynwysyddion allan ar ymyl y ffordd i’w casglu, ac rydyn ni wedi gallu anfon nifer o griwiau i godi gwastraff o ble maen nhw’n gallu.
Fodd bynnag, os na fyddwn yn llwyddo i gasglu eich gwastraff heddiw, byddwn yn ei gasglu’r wythnos nesaf – byddwn yn atal ein casgliadau biniau gwyrdd ddydd Iau a dydd Gwener nesaf, a byddwn yn gwagio biniau du ac yn casglu ailgylchu ychwanegol yn lle hynny.
Diolch am eich amynedd. Mae ein timau wedi bod yn gweithio’n anhygoel o galed dros y 24 awr ddiwethaf – yn graeanu ac yn sychau eira – ac rydym wir yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth.
Byddwch yn ofalus pan fyddwch allan ac ogwmpas.
Diweddaru 11.00 👉 Mae prif adeilad Tŷ Pawb bellach ar agor i’r cyhoedd drwy fynedfeydd Stryd y Farchnad, Arcêd y Gogledd ac Arcêd y De. Bydd mynedfa’r Ardal Fwyd/ Mynedfa Maes Parcio Stryd y Farchnad yn parhau ar gau. Bydd y Maes Parcio a’r Oriel yn parhau ar gau am weddill heddiw.
Diweddaru 10.30 👉 Gallwn gadarnhau nawr y bydd yr Amgueddfa, Caffi ac Archifau ar agor am 11.30yb. Cymerwch ofal os ydych yn mentro allan heddiw.
Llawer o eira dros nos…
Bydd casgliadau sbwriel ac ailgylchu yn cael eu hatal heddiw.
Bydd Galw Wrecsam (sydd wedi’i leoli yn Llyfrgell Wrecsam) yn parhau ar gau – ond gallwch chi barhau i gael mynediad at ein gwasanaethau ar-lein neu drwy ddefnyddio ein rhifau ffôn a gyhoeddwyd.
Mae swyddfeydd ystadau tai ar gau.
Mae’r ysgolion wedi diweddaru rhieni ynglŷn â ysgolion sydd ar gau.
Mae ein timau’n parhau i weithio’n galed – graeanu ac yn sychau eira mewn amodau anodd.
Cymerwch ofal a chadwch yn ddiogel yn yr eira.
Diweddariadau pellach i ddilyn.