Mae staff a Llywodraethwyr yn cynnig croeso cynnes i’r gymuned leol i ddigwyddiad agored a thaith o’r ysgol newydd ddydd Sadwrn 21 Hydref rhwng 10am a 1pm a dydd Sul 22 Hydref rhwng 2pm a 4pm.
Bydd hwn yn gyfle gwych i’r gymuned weld yr adnewyddu a’r gwaith sydd wedi’i wneud yn yr hen ysgol sydd ar arddull Fictoraidd, fydd yn caniatáu i bob grŵp blwyddyn yn yr ysgol gael eu haddysgu ar yr un safle modern am y tro cyntaf.
Bydd cyfle i weld Tŷ’r Ysgol hefyd a gafodd ei brynu a’i drawsnewid yn gyfleuster Gofal Plant Gofal Estynedig newydd gyda llety swyddfa ac ystafelloedd cyfarfod i fyny’r grisiau.
Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Cadeirydd y Llywodraethwyr: “Rydym yn croesawu’r gymuned leol i weld yr ysgol a’r cyfleusterau newydd. “Mae’r staff a’r Llywodraethwyr yn falch iawn o’n cyfleusterau newydd lle cafodd hen flaen Fictoraidd yr ysgol ei gadw a’i droi’n adeilad taclus newydd sy’n addas i’r 21ain Ganrif.”
Dywedodd y Pennaeth, Mrs Alison Heale: “Rydym i gyd yn hynod o falch o’n hysgol newydd, ac rydym yn gyffrous iawn i allu gwahodd y gymuned i mewn i weld y newidiadau sydd wedi’u gwneud. “Unwaith eto, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’n rhieni a’n gwarcheidwaid, trigolion a’r gymuned leol am eu hamynedd yn ystod adeiladu’r safle. “Mae’r newidiadau a’r gwelliannau wedi bod yn drawsnewidiol ac rwy’n edrych ymlaen at eich croesawu chi i gyd.”
Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg yng Nghyngor Wrecsam: “Rwy’n hynod o falch gyda safon uchel y gwaith yn yr ysgol ac rwy’n hyderus y bydd yr ysgol yn gwasanaethu cymuned Johnstown yn dda am flynyddoedd i ddod, yn ogystal â bod yn ffynhonell balchder i’r gymuned.”