Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Diwrnod agored cymunedol Ysgol yr Hafod
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Diwrnod agored cymunedol Ysgol yr Hafod
Y cyngorArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod agored cymunedol Ysgol yr Hafod

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 11, 2023 11:02 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Diwrnod agored cymunedol Ysgol yr Hafod
RHANNU

Mae staff a Llywodraethwyr yn cynnig croeso cynnes i’r gymuned leol i ddigwyddiad agored a thaith o’r ysgol newydd ddydd Sadwrn 21 Hydref rhwng 10am a 1pm a dydd Sul 22 Hydref rhwng 2pm a 4pm.

Bydd hwn yn gyfle gwych i’r gymuned weld yr adnewyddu a’r gwaith sydd wedi’i wneud yn yr hen ysgol sydd ar arddull Fictoraidd, fydd yn caniatáu i bob grŵp blwyddyn yn yr ysgol gael eu haddysgu ar yr un safle modern am y tro cyntaf.

Bydd cyfle i weld Tŷ’r Ysgol hefyd a gafodd ei brynu a’i drawsnewid yn gyfleuster Gofal Plant Gofal Estynedig newydd gyda llety swyddfa ac ystafelloedd cyfarfod i fyny’r grisiau.

Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Cadeirydd y Llywodraethwyr: “Rydym yn croesawu’r gymuned leol i weld yr ysgol a’r cyfleusterau newydd. “Mae’r staff a’r Llywodraethwyr yn falch iawn o’n cyfleusterau newydd lle cafodd hen flaen Fictoraidd yr ysgol ei gadw a’i droi’n adeilad taclus newydd sy’n addas i’r 21ain Ganrif.”

Dywedodd y Pennaeth, Mrs Alison Heale: “Rydym i gyd yn hynod o falch o’n hysgol newydd, ac rydym yn gyffrous iawn i allu gwahodd y gymuned i mewn i weld y newidiadau sydd wedi’u gwneud. “Unwaith eto, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’n rhieni a’n gwarcheidwaid, trigolion a’r gymuned leol am eu hamynedd yn ystod adeiladu’r safle. “Mae’r newidiadau a’r gwelliannau wedi bod yn drawsnewidiol ac rwy’n edrych ymlaen at eich croesawu chi i gyd.”

Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg yng Nghyngor Wrecsam: “Rwy’n hynod o falch gyda safon uchel y gwaith yn yr ysgol ac rwy’n hyderus y bydd yr ysgol yn gwasanaethu cymuned Johnstown yn dda am flynyddoedd i ddod, yn ogystal â bod yn ffynhonell balchder i’r gymuned.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham city aerial view Paratoadau ar gyfer Eisteddfod 2025 yn cychwyn yn ardal Wrecsam
Erthygl nesaf Wrecsam i ddathlu Hanes Pobl Dduon Cymru 365 gyda digwyddiad AM DDIM Wrecsam i ddathlu Hanes Pobl Dduon Cymru 365 gyda digwyddiad AM DDIM

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau
Busnes ac addysg

Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau

Hydref 13, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English