Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Paratoadau ar gyfer Eisteddfod 2025 yn cychwyn yn ardal Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Paratoadau ar gyfer Eisteddfod 2025 yn cychwyn yn ardal Wrecsam
Pobl a lle

Paratoadau ar gyfer Eisteddfod 2025 yn cychwyn yn ardal Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: October 10, 2023 4:45 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Wrexham city aerial view
RHANNU

Erthygl gwestai gan Eisteddfod Genedlaethol

Mae’r gwaith o baratoi ar gyfer gŵyl a phrosiect cymunedol Eisteddfod Genedlaethol 2025 yn cychwyn nos Fercher 18 Hydref mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhelir yn Theatr Glanrafon, Coleg Cambria, Ffordd Caer Wrecsam am 18:30.

Meddai Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at gychwyn y gwaith yn ardal Wrecsam. Rwy’n gwybod bod pawb yn edrych ymlaen at groesawu’r Eisteddfod i’r ardal unwaith eto ymhen dwy flynedd, a bod llawer o bobl ar draws y dalgylch yn awyddus i ymuno â ni i wireddu wythnos a phrosiect cofiadwy.

“Rydyn ni’n awyddus i ddenu trawsdoriad eang o bobl gyda phob math o ddiddordebau ac arbenigedd i fod yn rhan o’r tîm, gyda’r profiadol a’r ifanc yn cydweithio er mwyn creu prosiect a gŵyl fydd yn sicr o ddenu cystadleuwyr ac ymwelwyr atom yn eu miloedd.

“Edrychwn ymlaen am ddeunaw mis hapus yn gweithio ar draws y dalgylch, a gall unrhyw un sydd â diddordeb i fod yn rhan o’r tîm gofrestru ar-lein neu ddod i’r cyfarfod cyhoeddus yn Wrecsam. Dyma’r tro cyntaf i ni ymweld â’r ardal ers 2011, ac mae llawer iawn wedi newid yn ystod y cyfnod yma, gyda phroffil Wrecsam yn hynod uchel ar hyn o bryd.

“Rydyn ni’n gobeithio y byddwn ni’n croesawu rhai o dîm Eisteddfod 2011 yn ôl atom, ac yn denu criw newydd ac ifanc i ymuno â ni dros y misoedd nesaf, wrth i ni weithio yn y gymuned ac ar drefnu’r ŵyl ei hun. Mae’r neges yn syml – mae croeso mawr i bawb.”

Bwriad y cyfarfod cyhoeddus cychwynnol yw rhoi cyfle i bobl leol ddangos eu cefnogaeth a gwirfoddoli i ddod yn rhan o’r prosiect. Mae’r gymuned yn rhan ganolog o’r gwaith o drefnu’r Eisteddfod wrth i’r ŵyl deithio o amgylch Cymru.

Mae enwebiadau ar gyfer swyddogion Pwyllgor Gwaith wedi agor, a gellir ymgeisio neu enwebu rhywun am swydd Cadeirydd, Is-gadeirydd Strategol, Is-gadeirydd Diwylliannol, Cadeirydd y Gronfa Leol ac Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith ar-lein yma, Ymuno â thîm 2025 | Eisteddfod a’r dyddiad cau yw 17:00, dydd Llun 23 Hydref.

Mae cyfle hefyd i ymuno gyda’r pwyllgorau amrywiol a fydd yn rhan o baratoi ar gyfer yr ŵyl, ac mae gwybodaeth am y rhain i gyd ar gael yma, Pwyllgorau lleol Eisteddfod 2025 | Eisteddfod. Bydd y pwyllgorau diwylliannol yn cyfarfod am y tro cyntaf am 19:30 yn syth ar ôl y cyfarfod cyhoeddus yn Theatr Glanrafon. Yna, bydd pawb yn dod ynghyd yn Ysgol Plascoch, fore Sadwrn 28 Hydref am 10:30, i ddechrau ar y gwaith o ddewis cystadlaethau, beirniaid a chyfeilyddion er mwyn creu Rhestr Testunau Eisteddfod 2025.

Bydd y gwaith codi arian ac ymwybyddiaeth, ynghyd â’r cyfarfodydd strategol yn cychwyn ddechrau Tachwedd, gyda manylion i’w cyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru, ac ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y sefydliad.

Cynhelir y cyfarfod cyhoeddus yn y Gymraeg gyda chyfieithydd ar y pryd ar gael. Mae’r Eistedfod yn arbennig o awyddus i ddenu dysgwyr a phobl sy’n cychwyn ar eu taith iaith i ymuno gyda phwyllgorau amrywiol, ac i ddefnyddio’r misoedd nesaf fel cyfle arbennig i ymarfer ein hiaith.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol 2025 yn ardal Wrecsam yn ystod wythnos gyntaf Awst. Am ragor o wybodaeth ac i ymuno â’r pwyllgorau ewch i wefan yr Eisteddfod, www.eisteddfod.cymru

Rhannu
Erthygl flaenorol Dementia Gadewch i ni siarad am ddementia
Erthygl nesaf Diwrnod agored cymunedol Ysgol yr Hafod Diwrnod agored cymunedol Ysgol yr Hafod

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Noson tân gwyllt – syniadau cyn cynnau
Noson tân gwyllt – syniadau cyn cynnau
Y cyngor
November 4, 2026
bys deulawr
Gwelliannau arfaethedig i deithio ar fysus ar gyfer ardaloedd cyflogaeth allweddol
Busnes ac addysg Arall
November 3, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer Cynnau’r Goleuadau Nadolig eleni
Wrecsam yn paratoi ar gyfer Cynnau’r Goleuadau Nadolig eleni
Digwyddiadau
November 3, 2026
Vote
Mewn dau le ar yr un pryd…
Pobl a lle Busnes ac addysg
November 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Armed Forces
Y cyngorDigwyddiadauPobl a lle

Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dychwelyd… 3 Rhagfyr 🎄

October 28, 2026
Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 
Y cyngorDigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 

October 28, 2026
Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Pobl a lle

Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen

October 27, 2026
Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029
Pobl a lleDigwyddiadau

Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029

October 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English