Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Diwrnod Agored Rhagorol yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Diwrnod Agored Rhagorol yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans
Y cyngor

Diwrnod Agored Rhagorol yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 11, 2022 11:22 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Gwyn Evans
RHANNU

Ar ddydd Sadwrn yr 2il o  Orffennaf, cynhaliodd Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans yng Ngwersyllt ei ddiwrnod agored a oedd yn ddigwyddiad gwych i bob oedran.  Croesawyd pawb o’r gymuned leol i ddefnyddio eu canolfan hamdden leol ac fe’i hanogwyd i fod yn egnïol!

Ymhlith uchafbwyntiau’r diwrnod roedd Zumbathon dwy awr am ddim, dosbarthiadau ffitrwydd, mynediad i’r gampfa, pêl-droed a phêl-fasged gwynt yn y neuadd chwaraeon a dwy sesiwn gyda theganau gwynt yn y pwll.   Ymddangosodd mascot Freedom Leisure sef Jim Trainer a hefyd Brenin y Pwdinau ei hun, Mr Tee ac roedd y plant (ac oedolion) wrth eu boddau.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Roedd Beverley Parry-Jones, y Cynghorydd ar gyfer Bryn Cefn yn bresennol a dywedodd, “Roedd yn bleser ymweld â Diwrnod Agored Canolfan Hamdden Gwyn Evans, mae’n wych bod gennym gyfleusterau mor anhygoel ar stepen ein drws sy’n cynnig cymaint o weithgareddau ar gyfer pob ystod oedran.  Roedd cyfarpar y gampfa wedi gwneud tipyn o argraff arnaf ac yn ddiweddar rwyf wedi dechrau mynd i nofio yn y pwll gyda’r nos.“

Yn ogystal â’r diwrnod agored, manteisiodd Gwyn Evans ar y cyfle i lansio eu haelodaeth gymunedol newydd sbon a fydd yn rhoi’r cyfle i drigolion lleol ddefnyddio eu cyfleusterau lleol am bris isel iawn.

Dywedodd Richard Milne, Rheolwr Ardal Freedom Leisure yn Wrecsam, “Roedd yn wych gweld llwyddiant y diwrnod agored yn Gwyn Evans gyda’r gymuned leol yn bresennol, gan ei wneud yn ddiwrnod mor hwyliog i bawb. Bellach mae gennym yr aelodaeth gymunedol newydd ar gyfer Gwyn Evans a fydd yn caniatáu mynediad i ddosbarthiadau nofio, y gampfa ac ymarfer corff, rhywbeth i bawb”

Gwyn Evans
Gwyn Evans
Diwrnod Agored Rhagorol yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans
Diwrnod Agored Rhagorol yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans
Gwyn Evans
Diwrnod Agored Rhagorol yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans
Diwrnod Agored Rhagorol yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans

Mae Freedom Leisure yn Wrecsam sy’n rhedeg Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn edrych ymlaen at ddiwrnodau agored yn eu canolfannau eraill sef Byd Dŵr a’r Waun yn ddiweddarach y mis hwn.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfleusterau Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans ac i holi am eu haelodaeth gymunedol ffoniwch 01978 269540 neu ewch i https://www.facebook.com/GwynEvansLAC am luniau a fideos o’r diwrnod.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Green garden waste bin Ydych chi wedi adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd eto?
Erthygl nesaf Crown Festival Gŵyl Goronau i ddathlu’r Jiwbilî yn Eglwys San Silyn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English