Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Diwrnod Byd-eang y Plant yn llwyddiant gyda phobl ifanc
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Diwrnod Byd-eang y Plant yn llwyddiant gyda phobl ifanc
Y cyngor

Diwrnod Byd-eang y Plant yn llwyddiant gyda phobl ifanc

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 28, 2022 9:36 am
Rhannu
Darllen 4 funud
World Children's Day
RHANNU

Roedd digwyddiad am ddim i ddathlu Diwrnod Byd-eang y Plant yn llwyddiant mawr yn gynharach y mis hwn.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Nhŷ Pawb ac fe’i hagorwyd gan Scarlett Williams, Cadeirydd Senedd yr Ifanc a Katie Hill, Aelod Wrecsam o Senedd Ifanc y DU.  Cafodd tu blaen yr adeilad a’r mynedfeydd eu goleuo’n las sef y lliw sy’n cynrychioli Diwrnod Byd-eang y Plant.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Bu i ysgolion a grwpiau ieuenctid ymuno â’r dathliadau drwy wisgo rhywbeth glas a chynnal dathliadau Diwrnod Byd-eang y Plant a darparodd Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam fysiau fel bod grwpiau ieuenctid cymunedol yn gallu mynychu’r digwyddiad.

Roedd y digwyddiad am ddim ac roedd llawer o bobl yn bresennol. Roedd yn braf gweld pobl o bob oed, babanod, plant, pobl ifanc, rhieni, neiniau a theidiau, gofalwyr, grwpiau ieuenctid, aelodau etholedig a phobl sy’n gwneud penderfyniadau strategol yn dod at ei gilydd i’n digwyddiad Diwrnod Byd-eang y Plant prysuraf erioed, roedd pawb yn mwynhau eu hunain ac yn cael hwyl.

Roedd yr adloniant eleni yn cynnwys Andy y dyn pryf gyda’i arddangosfa pryfed arbennig a DidyaEvents yn dal atgofio gyda’u bwth lluniau.

Cynhaliodd Tîm Chwarae Wrecsam helfa drysor a sesiwn chwarae hwyl, bu i James y Cellweiriwr ddysgu sgiliau syrcas i’r plant a’r bobl ifanc, a bu i Senedd yr Ifanc ddarparu wynebau’r ŵyl a modelu balŵns.

Bu i Wrecsam Egnïol ddarparu her neidio a chynhaliodd Tîm Gwaith Ieuenctid mewn Addysg Wrecsam weithgaredd dylunio eich bisgedi eich hunain a chafwyd adloniant byw gan y gantores Megan Lee a’r Dynamic Signing Sensations.

Aeth y bwyd a phethau da am ddim i lawr yn dda hefyd. 🙂

World Children's Day
Diwrnod Byd-eang y Plant yn llwyddiant gyda phobl ifanc
World Children's Day
Diwrnod Byd-eang y Plant yn llwyddiant gyda phobl ifanc
Diwrnod Byd-eang y Plant yn llwyddiant gyda phobl ifanc
Diwrnod Byd-eang y Plant yn llwyddiant gyda phobl ifanc
Diwrnod Byd-eang y Plant yn llwyddiant gyda phobl ifanc
Diwrnod Byd-eang y Plant yn llwyddiant gyda phobl ifanc
World Children's Day

Roedd yna gymysgedd dda o stondinau yno hefyd yn darparu gwybodaeth am wasanaethau a phrosiectau i gefnogi pobl ifanc a theuluoedd ar draws Wrecsam a oedd yn rhoi taflenni a nwyddau am ddim i bobl fynd adref gyda nhw.

Yn ystod y digwyddiad cynhaliwyd seremoni wobrwyo wedi’i arwain gan y Dirprwy Faer, y Cynghorydd Paul Rogers, a ddywedodd ei bod yn fraint cael rhannu cyraeddiadau gwirfoddolwyr ifanc ymroddedig o Wrecsam.

Mae’r Cynllun Gwobrau Gwirfoddolwyr yn Ysbrydoli Wrecsam yn gynllun newydd a ddatblygwyd gan Wasanaeth Ieuenctid Wrecsam. Mae’n cydnabod ac yn gwobrwyo pobl ifanc 11 – 25 oed am eu llwyddiannau wrth wirfoddoli gyda Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam.

Bu i’r Dirprwy Faer ddiolch i’r holl wirfoddolwyr am eu hymroddiad, ymrwymiad ac amser i gefnogi eu prosiectau. Llwyddodd 21 o bobl ifanc i gael tystysgrifau yn amrywio o 10 awr i 400 awr, a daeth 14 o’r bobl ifanc hyn i gasglu eu tystysgrifau yn ystod y digwyddiad.

Hoffai Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam ddiolch i bawb a wnaeth y digwyddiad yn llwyddiant mawr ac am eu helpu i ddathlu Diwrnod Byd-eang y Plant 2022.

Cafodd Diwrnod Byd-eang y Plant ei sefydlu yn gyntaf ym 1954 fel Diwrnod Byd-eang y Plant ac mae’n cael ei ddathlu ar 20 Tachwedd bob blwyddyn i hyrwyddo cydberthynas rhyngwladol, ymwybyddiaeth ymysg plant yn fyd-eang a gwella lles plant.  Y thema eleni oedd:  Cynhwysiant i bob plentyn.

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cymorth ar gael i’r rhai sy’n ei chael yn anodd talu am wasanaethau ffôn a band eang Cymorth ar gael i’r rhai sy’n ei chael yn anodd talu am wasanaethau ffôn a band eang
Erthygl nesaf SCAMnesty Cymerwch Ran yn SCAMnesty

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English