Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Diwrnod Canser Y Byd (4ydd Chwefror) Galwad brys am wirfoddolwyr bôn-gelloedd i helpu person ifanc yn ei arddegau gyda lewcemia
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK
Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol
Pobl a lle
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd
Y cyngor
Ty Pawb
Tŷ Pawb yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru o £8m
Pobl a lle Y cyngor
Dwylo oedolyn sy'n dysgu sut i wneud crefftau Macrame
Ymunwch â dosbarth am ddim yn Wrecsam yr Wythnos Addysg Oedolion hon
Digwyddiadau Pobl a lle
Wrexham Guildhall
Cyngor Wrecsam yn croesawu canfyddiadau cadarnhaol o’r Asesiad Perfformiad Panel cyntaf
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Diwrnod Canser Y Byd (4ydd Chwefror) Galwad brys am wirfoddolwyr bôn-gelloedd i helpu person ifanc yn ei arddegau gyda lewcemia
Arall

Diwrnod Canser Y Byd (4ydd Chwefror) Galwad brys am wirfoddolwyr bôn-gelloedd i helpu person ifanc yn ei arddegau gyda lewcemia

Diweddarwyd diwethaf: 2025/02/04 at 4:19 PM
Rhannu
Darllen 7 funud
Diwrnod Canser Y Byd (4ydd Chwefror) Galwad brys am wirfoddolwyr bôn-gelloedd i helpu person ifanc yn ei arddegau gyda lewcemia
RHANNU

Erthygl Gwadd – Gwasanaeth Gwaed Cymru

Mae teulu bachgen yn ei arddegau o Ben-y-bont ar Ogwr sydd wedi cael ei ddiagnosio’n ddiweddar gyda lewcemia, yn apelio ar frys am fwy o bobl ifanc i gofrestru fel gwirfoddolwyr bôn-gelloedd gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru, cyn Diwrnod Canser y Byd ar ddydd Mawrth, 4 Chwefror 2025.

Cafodd Aston Bevington, 16 oed, ddiagnosis o fath prin o lewcemia yn ddiweddar, ac mae’n gobeithio dod o hyd i roddwr bôn-gelloedd (sydd yn cael ei alw hefyd yn fêr esgyrn) i’w helpu i oresgyn y clefyd. Mam Aston, Siân Mansell, tad, Jason Bevington, a’r llysfam, Nathan Strong, yn arwain yr alwad i geisio cael mwy o bobl ifanc rhwng 16 a 30 oed i ymuno â Chofrestr Gwasanaeth Gwaed Cymru, gyda’r posibiliad y buasent efallai yn cydweddu ag Aston.

“Galwodd ei feddyg a dweud wrthyf fod ganddo ganser, a bod angen iddo fynd i’r ysbyty ar frys. Chwalodd fy nghalon yn llwyr.” meddai Siân, ei fam.

Cafodd Aston ddiagnosis o dwymyn y chwarennau i ddechrau, ond parhaodd ei gyflwr i ddirywio. Daeth y teulu’n fwy pryderus pan ddechreuodd Aston deimlo’n flinedig, yn gyfoglyd a phan ddechreuodd rhannau eraill o’i gorff chwyddo. Datgelodd profion ychwanegol y diagnosis dinistriol.

“Cafodd ei anfon mewn ambiwlans gyda golau glas i Ysbyty Arch Noa yng Nghaerdydd, a dechreuodd gemotherapi yn syth bin.  Roedd angen gwaed a phlatennau fel rhan o’i driniaeth hefyd,” eglurodd Siân.

“Dydy ei gorff ddim yn ymateb i’r driniaeth cemotherapi fel y dylai, felly mae’n edrych yn debyg y bydd  angen trawsblaniad bôn-gelloedd arno. Bydd y trawsblaniad yn helpu i’w wella trwy amnewid ei gelloedd, sy’n achosi’r canser, gyda chelloedd iach gan roddwr.”

Er gwaethaf y ffaith bod mwy na 40 miliwn o bobl ar Gofrestrfeydd ar draws y byd sydd wedi cofrestru fel rhoddwyr sy’n barod i helpu rhywun fel Aston, mae tri o bob deg claf yn dal i fethu dod o hyd i rywun sy’n cydweddu â nhw.

Tad, Jason, wedi mynegi ei ddiolchgarwch am y gefnogaeth maen nhw eisoes wedi’i chael gan y cyhoedd, ac yn gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o bobl i ymuno â’r gofrestr bôn-gelloedd. “Mae cefnogaeth y cymunedau chwaraeon wedi bod yn hollol anhygoel, o negeseuon gan bobl enwog yn dymuno pen-blwydd hapus iddo, i glwb rygbi ei dref enedigol, Clwb Rygbi Porthcawl, yn siafio eu pennau!”

“Mae wedi cael ei wneud yn gwbl glir i ni, ac yn bendant i Aston, nad yw’n ymladd y frwydr hon ar ei ben ei hun. Mae ganddo fyddin gyfan y tu ôl iddo.” Ychwanegodd Siân:

Mae breuddwyd Aston o ddod yn athletwr proffesiynol ar stop dros dro wrth iddo gael triniaeth a chwilio am roddwr addas. Mae eisoes wedi cael llwyddiant ar lefel ieuenctid, yn chwarae pêl-droed i academi ers yn bump oed, gan ddechrau gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe ac yn fwyaf diweddar, gyda Chlwb Pêl-droed Tref Pontardawe. Gallai Aston fod yn wynebu dewis anodd rhwng dyfodol mewn pêl-droed neu rygbi, gan fod ei ddoniau rygbi wedi cael eu cydnabod hefyd, gan iddo gael ei alw i fod yn rhan o academi’r Gweilch ar ôl cyfnodau llwyddiannus gyda Chlwb Rygbi Porthcawl a Pen-y-bont ar Ogwr.

“Byddai dod o hyd i roddwr yn rhoi cyfle i Aston fynd yn ôl i wneud yr hyn mae’n ei garu, sef chwarae pêl-droed, rygbi a bod gyda’i deulu a’i ffrindiau,” meddai’i lystad Nathan, gan amlygu’r pwysigrwydd dod o hyd i roddwr addas.

Dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Bydd llawer o bobl â chyflwr Aston yn mynd ymlaen i fod angen trawsblaniad bôn-gelloedd, sy’n cynnig y siawns orau iddynt o gael iachâd dros y tymor hir.  


“Fe allech chi fod yr un person yn y byd sydd yn cydweddu gydag Aston neu rywun tebyg iddo, a dyna pam rydym angen mwy o bobl i gofrestru. Os ydych chi rhwng 16 a 30 oed, neu rhwng 16 a 45 oed os ydych o gefndir Du, Asiaidd, treftadaeth gymysg neu leiafrif ethnig, efallai y gallwch ymuno.

“Mae meddygaeth fodern wedi chwyldroi sut rydyn ni’n casglu bôn-gelloedd, a phetasech chi’n cydweddu, mae bron pob rhodd bellach yn cael ei chasglu dros sawl awr, gan ddefnyddio peiriant sy’n cymryd eich bôn-gelloedd o’ch llif gwaed ac sy’n dychwelyd yr holl gelloedd eraill, gan ganiatáu ar gyfer adferiad cyflym.

“P’un a ydych chi’n gymwys i gofrestru neu’n adnabod rhywun a allai fod yn gymwys i gofrestru, siaradwch gyda phobl ifanc am y Gofrestr hon sy’n newid bywydau, a helpwch mwy o gleifion mewn angen fel Aston.”

Gallwch ymuno â Chofrestr Gwasanaeth Gwaed Cymru mewn dwy ffordd, trwy ofyn am becyn swab ar-lein neu wrth roi gwaed. Dysgwch fwy yn www.welshblood.org.uk.

Sut i gofrestru ar gyfer Cofrestr Gwasanaeth Gwaed Cymru

Rydych yn gymwys i ymuno â phanel Cofrestr Gwasanaeth Gwaed Cymru os:

  • Ydych chi rhwng 16 a 30 oed
  • Ydych chi rhwng 16 a 45 oed ac o gefndir Du, Asiaidd, Hil Gymysg neu Ethnig Leiafrifol.
  • Ydych chi’n byw yn y Deyrnas Unedig
  • Nad ydych chi wedi dioddef o unrhyw un o’r cyflyrau canlynol. Cliciwch yma i wirio.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i ymuno â’r Gofrestr, cliciwch ar y ddolen ganlynol

Rhannu
Erthygl flaenorol Llay Park resource centre 20 mlynedd o Ganolfan Adnoddau Parc Llai
Erthygl nesaf Cau llwybr troed canol y ddinas Cau llwybr troed canol y ddinas

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK
Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol
Pobl a lle Medi 12, 2025
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd
Y cyngor Medi 11, 2025
Ty Pawb
Tŷ Pawb yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru o £8m
Pobl a lle Y cyngor Medi 11, 2025
Dwylo oedolyn sy'n dysgu sut i wneud crefftau Macrame
Ymunwch â dosbarth am ddim yn Wrecsam yr Wythnos Addysg Oedolion hon
Digwyddiadau Pobl a lle Medi 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Driving
Arall

Mae’r Cyngor yn edrych i weithio gyda phartneriaid i orfodi terfynau cyflymder 30mya

Medi 3, 2025
Mobile phone
Arall

Bydd eich ffôn symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel fel seiren ddydd Sul

Medi 1, 2025
Hedgehog
Arall

Allwch chi helpu i ddiogelu draenogod?

Awst 19, 2025
Dog
Arall

Pwy sy’n gofalu am eich ffrind gorau tra byddwch ar wyliau?

Awst 19, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English