Efallai na allwn ni ddod at ein gilydd yng nghanol y dref i ddathlu Diwrnod Chwarae eleni, ond rydym ni’n dal i ddathlu!
Felly, byddwn yn cynnal Diwrnod Chwarae ar-lein gyda’r thema ‘Anturiaethau Bob Dydd’ heddiw.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Mae Tîm Chwarae a Chymorth Ieuenctid Wrecsam wedi bod yn gweithio gyda’u partneriaid i gynnal Diwrnod Chwarae ar-lein gyda chi. Mae hynny’n golygu y bydd modd i chi ymuno â ni o’ch cartref. Yn yr un modd ag arfer, ni fydd arnoch chi angen gwario ceiniog i gymryd rhan yn y Diwrnod Chwarae, a gallwch chwarae gyda ni gan ddefnyddio eitemau o’ch cartref.
Mae gennym lwythi o ffilmiau gwych i’w rhannu â chi gan gynnwys straeon, rhigymau, syniadau crefft a hwyl yn yr awyr agored. Mae yna rywbeth i bawb.
Bydd Wrecsam hefyd yn cefnogi Chwarae Cymru sydd yn gofyn i bawb wneud sŵn dros chwarae am 2pm heddiw, felly ewch i nôl eich sosbenni a’ch offerynnau neu curwch eich dwylo i ddangos eich bod yn cefnogi hawl plant i chwarae!
Cadwch lygad allan am ffilmiau llawn hwyl ar ein cyfryngau cymdeithasol drwy gydol y diwrnod!
Ac yn bwysicaf oll, mwynhewch!
Gallwch ddilyn ein cyfrifon yma:
Facebook.com/cyngorbwrdeistref
YMGEISIWCH RŴAN