Ar ddydd Llun, 9 Mawrth 2026, mae Wrecsam yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod (DRhM) ac mae croeso i bawb ddod draw i Dŷ Pawb i ddarganfod sut mae gweithredoedd bach o gefnogaeth yn creu cyfleoedd mawr i fenywod.
Thema DRhM eleni yw Rhoi i Ennill, sy’n canolbwyntio ar y ddealltwriaeth bod rhannu eich profiadau, eich gwybodaeth a’ch amser yn golygu eich bod yn adeiladu’r genhedlaeth bresennol a’r genhedlaeth nesaf o fenywod. Yn ei dro, mae hyn yn gweithio tuag at gau’r bwlch rhwng y rhywiau.
I ddangos i chi sut y gall hyn weithio, bydd Tŷ Pawb yn cynnal digwyddiad gyda sefydliadau sy’n gweithio yn Wrecsam, y DU a thu hwnt.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, yr aelod arweiniol sy’n gyfrifol am gydraddoldeb rhywiol: “Gall gweithredoedd bach o gefnogaeth wneud gwahaniaeth mawr i fywydau menywod a dyma thema DRhM 2026. Eleni mae gennym fwy na 14 o sefydliadau yn dod draw i Dŷ Pawb, gan gynnwys WeMindTheGap, The King’s Trust International, Gyrfa Cymru ac Uned Diogelwch Cam-drin Domestig Gogledd Cymru. Byddwn yn annog pawb i ddod draw i ddathlu cyflawniadau menywod a darganfod sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth mawr gyda hyd yn oed y gweithredoedd lleiaf.”
Felly dewch draw i’r digwyddiad difyr hwn i ddarganfod mwy a gweld sut y gallwch chi roi i ennill.
Dysgwch fwy am DRhM drwy ymweld â’r wefan swyddogol.

