Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Diwrnod y Lluoedd Arfog 2020 – ychydig yn wahanol eleni
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Diwrnod y Lluoedd Arfog 2020 – ychydig yn wahanol eleni
Y cyngor

Diwrnod y Lluoedd Arfog 2020 – ychydig yn wahanol eleni

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 27, 2020 10:18 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Armed Forces Day
RHANNU

Heddiw (27.06.20) yw Diwrnod y Lluoedd Arfog 2020, diwrnod pan fyddwn ni yn Wrecsam ac ar draws y DU yn dweud diolch i’n lluoedd arfog yn y gorffennol a’r presennol am eu gwasanaeth a’u haberth i’w gwlad.

Bydd pethau ychydig yn wahanol eleni. Ni fydd gorymdeithiau mawr nac arddangosfeydd awyr yn Wrecsam ond gallwn ddangos ein cefnogaeth o hyd trwy dreulio amser yn edrych ar eu negeseuon cyfryngau cymdeithasol a’u rhannu. Gallwch eu gweld ar neuFacebook: https://www.facebook.com/armedforcesday/ or twitter: https://twitter.com/ArmedForcesDay

Ond fel arfer, bydd baner Diwrnod y Lluoedd Arfog yn chwifio ar Lwyn Isaf i nodi’r diwrnod.

SUT I GAEL PRAWF OS OES GENNYCH SYMPTOMAU CORONAFIRWS

Gallwch hefyd gymryd rhan yn #SaluteOurForces, sy’n ffordd syml i unrhyw un dalu teyrnged i gymuned Lluoedd Arfog Prydain am eu gwaith caled, eu hymrwymiad a’u hymdrechion i’n cadw ni’n saff yn y DU ac ar draws y byd. I ymuno, anfonwch lun neu fideo ohonoch eich hun neu eich ffrindiau a chydweithwyr yn saliwtio atom! Mae manylion am sut i gyflwyno eich lluniau i’w gweld ar y ddolen hon.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd yn y Lluoedd Arfog, beth am anfon neges atynt neu eu ffonio i ddiolch iddynt am helpu i gadw’r DU yn ddiogel?

Meddai’r Cynghorydd David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Rwyf bob amser yn falch iawn o ymateb Wrecsam i’n lluoedd arfog a’n cyn-filwyr ar y diwrnod arbennig hwn. Er na fyddwn ni i gyd yn gallu dod at ein gilydd i ddiolch i’n lluoedd arfog, rwy’n siŵr y byddwch i gyd yn ymuno â mi eto i ddiolch iddynt am eu cyfraniad diflino a rhannu eu negeseuon cyfryngau cymdeithasol ar-lein. Diolch yn fawr i chi i gyd. Rydym yn ddiolchgar iawn i chi ac rydym yn gwybod y byddwch chi’n gwneud y gorau o’r diwrnod hwn – waeth lle yn y byd rydych chi.”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Hoffem ddiolch i’n lluoedd arfog a’n cyn-filwyr sydd wedi gwneud popeth a ofynnwyd iddynt yn ystod y pandemig hwn, o adeiladu ysbytai i wirfoddoli yn y gymuned. Maent i gyd wedi helpu i gadw pobl, gwasanaethau a’r GIG yn ddiogel. Eto maent wedi dangos eu cadernid a’u gallu i addasu i unrhyw sefyllfa a bydd eu cyfraniad yn cael ei gydnabod a’i gofio bob amser.”

Meddai Ian Bancroft, Prif Weithredwr: “Mae gan Wrecsam draddodiad balch iawn o gefnogi ei lluoedd arfog a chyn-filwyr, a gobeithio y byddwn i gyd yn cadw’r traddodiad hwnnw a threulio amser heddiw i dalu teyrnged i’n milwyr a phob un o’n cyn-filwyr.”

Rydym wedi edrych yn ôl ar beth wnaethom ni yn Wrecsam ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog 2014 pan mai ni oedd yn cynnal y digwyddiad yng Gogledd Cymru – achlysur cofiadwy iawn a gymerodd misoedd i’w gynllunio. Dyma’r fideo a gafodd ei recordio y diwrnod hwnnw:

Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid 19 Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd, 26.6.20
Erthygl nesaf Henblas Street Ailagor Toiledau Cyhoeddus Stryd Henblas – gyda phwyslais ar ddiogelwch

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English