Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
newyddion.wrecsam.gov.uk
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd, 26.6.20
Rhannu
Notification Show More
Latest News
Environment
Parti Coed Parc Acton
Y cyngor Pobl a lle
Register to vote
Eisiau ennill taleb gwerth £50?
Pobl a lle Y cyngor Yn cael sylw arbennig
Lego
Pencampwr LEGOMASTER Lego Channel 4 yn dod i Wrecsam!
Pobl a lle Y cyngor Yn cael sylw arbennig
Yma o hyd mural
Dod at Cyngerdd Kings of Leon ac yn ymweld â Wrecsam am y tro cyntaf? Beth i’w wneud a ble i fynd…
Pobl a lle Yn cael sylw arbennig
Kings of Leon concert in Wrexham
Cyngerdd Kings of Leon – Cau Ffyrdd Arfaethedig dydd Sadwrn a dydd Sul (27 a 28 Mai)
Arall Yn cael sylw arbennig
newyddion.wrecsam.gov.uk
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
newyddion.wrecsam.gov.uk > Blog > Y cyngor > Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd, 26.6.20
Y cyngorYn cael sylw arbennig

Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd, 26.6.20

Diweddarwyd diwethaf: 2020/07/02 at 9:29 AM
Rhannu
Darllen 5 funud
Covid 19
RHANNU

Mae’r nodyn hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn yr hyn a gyhoeddwyd ar y blog hwn yr wythnos diwethaf (19.6.20).

Cynnwys
Negeseuon allweddol ar gyfer heddiwIan Bancroft – Prif WeithredwrMark Pritchard – Arweinydd y CyngorDatgloi gwasanaethau, ailagor ysgolion a’ch cadw chi’n saffRowan FoodsYsgolion yn ailagor ddydd LlunIechyd ein cymunedau sy’n dod gyntaf…bob amserNodyn Atgoffa – ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy am Covid-19

Negeseuon allweddol ar gyfer heddiw

• Rydym yn datgloi gwasanaethau a chyfleusterau yn araf – yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a thystiolaeth wyddonol am Covid-19.
• Rydym yn gweithio’n agos gyda’r asiantaeth arweiniol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar ymateb i’r sefyllfa yn Rowan Foods.
• Bydd ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol yn ailagor ddydd Llun.

Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor

Datgloi gwasanaethau, ailagor ysgolion a’ch cadw chi’n saff

Wrth i gyfyngiadau lacio, mae cynghorau ar draws y DU yn dechrau ‘datgloi’ gwasanaethau a chyfleusterau lleol.

Yma yn Wrecsam, rydym wedi ailagor canol y dref ar gyfer siopa dianghenraid yr wythnos hon, a bydd ein hysgolion yn ailagor ddydd Llun.

- Cofrestru -
Get our top stories

Rydym yn gwneud hyn yn araf ac yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru a thystiolaeth wyddonol am Covid-19.

Mae hyn oherwydd nad yw’r bygythiad gan Covid-19 wedi diflannu, a diogelwch ein cymunedau yw ein blaenoriaeth uchaf.

Iechyd pobl sy’n dod gyntaf. Bob amser.

Rowan Foods

Byddwch chi wedi darllen am y sefyllfa o ran Rowan Foods ar Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam.

Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’r asiantaeth arweiniol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chadarnhaodd diweddariad a gyhoeddwyd yn gynharach heddiw fod 166 o achosion wedi’u nodi ymhlith y gweithlu yn y ffatri bellach.

Nid yw hyn yn golygu bod yr haint yn cynyddu…bydd rhagor o brofion yn anochel yn arwain at nodi rhagor o achosion. Ond mae’n ein hatgoffa bod Covid-19 yn dal i fod yma.

Dywedodd Dr Robin Howe, Cyfarwyddwr Digwyddiadau ar gyfer yr ymateb i’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae profion ar weithlu sy’n gysylltiedig ag achosion o’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) yn ardal Wrecsam yn parhau.

“Rydym wrthi’n cyfuno gwybodaeth i nodi cwmpas llawn y broses barhaus o gynnal profion a chyfanswm nifer yr achosion positif.

“Hyd yma, mae cyfanswm o 166 o achosion wedi’u nodi, sef cynnydd o 69 achos wedi’u hadrodd yn ystod y 24 awr diwethaf.

“Nid yw nodi achosion ychwanegol yn golygu bod yr haint yn cynyddu. Fodd bynnag, mae hefyd yn ein hatgoffa nad yw COVID-19 wedi diflannu a’i fod yn dal i fod yn y gymuned.”

Gallwch ddarllen y diweddariad llawn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar eu gwefan.

SUT I GAEL PRAWF OS OES GENNYCH SYMPTOMAU CORONAFIRWS

Ysgolion yn ailagor ddydd Llun

Os ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr, byddwch yn gwybod y bydd ysgolion ar draws y fwrdeistref sirol yn ailagor ddydd Llun.

Bydd eich ysgol wedi cysylltu â chi i gadarnhau pa bryd fydd eich plentyn yn gallu mynychu.

Y nod yw rhoi cyfle i ddisgyblion “ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar gyfer mis Medi.”

Os oes unrhyw amgylchiadau sy’n effeithio ar allu ysgol benodol i ailagor, bydd yr ysgol unigol yn cysylltu â rhieni.

Iechyd ein cymunedau sy’n dod gyntaf…bob amser

Mae gennym i gyd ran fawr i’w chwarae wrth frwydro yn erbyn y coronafeirws o hyd.

Ein cyfrifoldeb ni i gyd yw dal i ddilyn y rheolau – dal i gadw pellter cymdeithasol, golchi ein dwylo, gwneud y peth iawn i helpu i gadw ein hunain ac eraill yn saff.

Ac fel cyngor, rydym am i chi fod yn ffyddiog y byddwn yn dal i ddatgloi gwasanaethau a chyfleusterau yn araf a gofalus…yn unol â’r canllawiau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru a thystiolaeth wyddonol.

Iechyd ein cymunedau sy’n dod gyntaf.

Cadwch yn saff.

Peswch parhaus, tymheredd uchel neu wedi colli’r gallu i flasu neu arogli? Efallai bod gennych y coronafeirws. Arhoswch gartref. Archebwch brawf.https://t.co/kzj8ivAnYl pic.twitter.com/K5PVMRT4jq

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) June 24, 2020

Nodyn Atgoffa – ffynonellau gwybodaeth ddibynadwy am Covid-19

Caiff y wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl wneud amdano ei darparu trwy:
• Llywodraeth Cymru
• Iechyd Cyhoeddus Cymru

Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws

YMGEISIWCH RŴAN

Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio cyhoeddus 19.6.20

 

Rhannu
Erthygl flaenorol Cancelled Digwyddiad neu wyliau wedi’i ohirio? – gwybod beth yw eich hawliau
Erthygl nesaf Armed Forces Day Diwrnod y Lluoedd Arfog 2020 – ychydig yn wahanol eleni

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Environment
Parti Coed Parc Acton
Y cyngor Pobl a lle Mehefin 2, 2023
Register to vote
Eisiau ennill taleb gwerth £50?
Pobl a lle Y cyngor Yn cael sylw arbennig Mai 24, 2023
Lego
Pencampwr LEGOMASTER Lego Channel 4 yn dod i Wrecsam!
Pobl a lle Y cyngor Yn cael sylw arbennig Mai 24, 2023
Yma o hyd mural
Dod at Cyngerdd Kings of Leon ac yn ymweld â Wrecsam am y tro cyntaf? Beth i’w wneud a ble i fynd…
Pobl a lle Yn cael sylw arbennig Mai 23, 2023

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Environment
Y cyngorPobl a lle

Parti Coed Parc Acton

Mehefin 2, 2023
Register to vote
Pobl a lleY cyngorYn cael sylw arbennig

Eisiau ennill taleb gwerth £50?

Mai 24, 2023
Lego
Pobl a lleY cyngorYn cael sylw arbennig

Pencampwr LEGOMASTER Lego Channel 4 yn dod i Wrecsam!

Mai 24, 2023
Yma o hyd mural
Pobl a lleYn cael sylw arbennig

Dod at Cyngerdd Kings of Leon ac yn ymweld â Wrecsam am y tro cyntaf? Beth i’w wneud a ble i fynd…

Mai 23, 2023
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Fy Niweddariadau
  • Hysbysiadau awtomatig
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Cofrestru
newyddion.wrecsam.gov.uk
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cofrestru
Prif storiau - tanysgrifwch!

Peidiwch â methu’r newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Sign up
Rhowch gynnig arno! Gallwch ddatdanysgrifio ar unrhyw adeg.

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English