Bydd Diwrnod y Lluoedd Arfog Cymru yn cael ei gynnal ar 18 Mehefin eleni, a dyma gip ar beth sydd ar y gweill i chi i’w fwynhau, wrth i ni ddangos ein cefnogaeth i’r dynion a’r merched sydd wedi’u cynnwys o fewn cymuned y lluoedd arfog.
Mae’r diwrnod yn dechrau am 10am ym Modhyfryd am orymdaith, gyda band ymdeithio o amgylch canol y dref! Bydd cynrychiolwyr o’r tri llu yn gorymdeithio a byddant yn cael cwmni cadetiaid ac wrth gwrs cyn-filwyr o bob rhan o Ogledd Cymru.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Yn dilyn hynny, a nes 4pm, bydd adloniant ar gyfer y teulu cyfan, yn ogystal ag arddangosfeydd. Bydd cerddoriaeth fyw gan Fand y Royal Welsh, Band Glofa Ifton a grwpiau lleol eraill, gyda’r Big Beat yn dod â’r adloniant i ben cyn y seremoni gloi, a bydd bar a lluniaeth ar y safle.
Dylai cyn-filwyr sydd eisiau cymryd rhan yn yr orymdaith fod yn barod ym Modhyfryd am 10am.
Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog, “Rydym yn gwneud y cynlluniau hyn, wrth i ni wylio a gwrando ar erchylltra’r digwyddiadau yn Wcráin ar hyn o bryd. Mae’n nodyn trist i atgoffa o pham rydym yn gwerthfawrogi ein lluoedd arfog gymaint, ac ein dyled iddynt am eu gwasanaeth, ddoe a heddiw.
“Rwy’n gobeithio y bydd gymaint o bobl yn ymuno o Ogledd Cymru â phosib, i ddiolch iddynt a’u teuluoedd am eu gwasanaeth parhaus dros ein gwlad.”
Yn sgil y sefyllfa bresennol, efallai bydd yr amserlen a’r gweithgareddau’n cael eu newid, a byddwn yn gadael i chi wybod os yw hyn yn digwydd.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH