Bu i berchnogion busnes lleol, staff, Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ac aelodau o’r gymuned gymryd rhan yn y sesiwn ffrindiau Dementia yn Peal O’Bells yn Holt yn ddiweddar.
Bwriad y sesiwn ffrindiau Dementia a oedd yn para awr, wedi’i gynnal gan Hyrwyddwr Dementia Cyngor Wrecsam, yw rhoi mwy o ymwybyddiaeth i bobl o sut y mae byw gyda Dementia.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Mae Cynghorwyr Cymuned Holt wedi cymryd rhan yn y sesiwn ffrindiau Dementia hefyd. Felly, mae Holt ar y trywydd iawn i gael ei adnabod fel cymuned sydd yn gyfeillgar i dementia.
Diolch i bawb sydd yn cefnogi’r sesiynau hyn.
Mae 850,000 o bobl yn byw gyda dementia yn y DU, ac mae disgwyl i’r nifer hwn godi o 1 miliwn erbyn 2021.
Mae’n hanfodol ein bod yn cynllunio ymlaen llaw a chwilio am ffyrdd i gefnogi’r cynnydd hwn mewn niferoedd, a sut i barhau i godi ymwybyddiaeth o sut mae byw gyda Dementia a’r effaith mae’n ei gael ar ofalwyr.
Mae Ffrindiau Dementia yn Fenter Cymdeithas Alzheimer’s a newydd ddathlu cyrraedd 3 miliwn o Ffrindiau Dementia ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Os hoffech gysylltu â ni er mwyn derbyn hyfforddiant Ymwybyddiaeth Dementia, cysylltwch â commissioning@wrexham.gov.uk neu os oes diddordeb gennych weithio yn y diwydiant gofal i helpu gofalu a chefnogi’r rhai sy’n byw gyda Dementia, cysylltwch â workforcedevelopment@wrexham.gov.uk.
Ffotograff:
Jeremy Hughes a Julie Croft – NISA stores, Holt Brian a Sue Payne, Anna Evans, Polly Griffiths, Marlene Ayling, Jane a Becky Griffiths – Secret Spa Holt. Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu Lisa-Marie, Sue a Pauline Amphlett
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN