O ddydd Sadwrn, 10 Ebrill, ni fydd yn rhaid i chi wneud apwyntiad i fynd i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Brymbo.
Rydym ni’n gobeithio y bydd hyn yn gwneud pethau’n haws i bobl leol ddefnyddio’r cyfleusterau ar y penwythnos. Fodd bynnag, os ydi hi’n mynd yn rhy brysur byddwn yn cau’r gatiau dros dro. Mae’n bosibl y bydd hynny’n arwain ar draffig ar y ffordd ac felly byddwn yn monitro pethau’n ofalus ac yn gweld sut mae’n mynd.
Bydd yn rhaid i chi ddangos tystiolaeth eich bod chi’n byw yn Wrecsam a chewch chi ddim dod â threlar. Os oes arnoch chi angen dadlwytho trelar yna defnyddiwch Ganolfannau Ailgylchu Lôn Bryn neu Blas Madoc.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Gwiriwch drefniadau presennol ein Canolfannau Ailgylchu:
- Peidiwch â mynd i’r safleoedd os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd symptomau o Covid-19.
- Dewch â gwastraff yr aelwyd yn unig gyda chi. Peidiwch â dod â gwastraff masnachol na gwastraff busnes gyda chi.
- Dewch â phrawf gyda chi eich bod yn byw yn y fwrdeistref sirol (e.e. bil cyfleustodau gyda’ch cyfeiriad arno). Mae’r safleoedd hyn ar gyfer preswylwyr Wrecsam yn unig. Os nad oes gennych brawf eich bod yn byw yma, ni chewch adael eich sbwriel.
- Byddwch yn amyneddgar os bydd rhaid i chi aros mewn ciw. Ni chaniateir mwy na phump cerbyd ar y safle ar un adeg.
- Sicrhewch mai dim ond un person sydd yn dod allan o’r cerbyd er mwyn dadlwytho, a’u bod yn dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol. Nodwch os gwelwch yn dda, dylai plant aros yn y car drwy’r amser, ni chaniateir anifeiliaid anwes ar y safle.
- Peidiwch â dod ag eitemau sydd yn rhy fawr neu’n rhy drwm i chi eu cario eich hun. Ni fydd ein gweithwyr yn cael eich helpu i ddadlwytho eich car, na chael gwared ar eich gwastraff.
- Sortiwch eich gwastraff cyn i chi gyrraedd (er mwyn i chi fod yn gyflym).
- Byddwch yn gwrtais. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad ymosodol tuag at ein staff. Bydd swyddogion yn gwisgo camerâu corff, felly byddant yn rhoi gwybod am unrhyw achos i’r heddlu.
- Peidiwch â chyffwrdd eich wyneb ar y safle, a dewch â’ch hylif diheintio dwylo eich hun os allwch chi (glanhewch eich dwylo gyda’r hylif cyn i chi yrru nôl am adref).
CANFOD Y FFEITHIAU