Os byddwch chi’n ymweld â Pharc Stryt Las yn Johnstown, efallai y sylwch chi fod gwaith wrthi’n cael ei wneud i ddraenio a glanhau’r pwll mawr.
Mae’r Ceidwaid yn gwneud hyn bob blwyddyn er mwyn glanhau gwely’r llyn yn iawn. Mae’r sbwriel yn y llyn yn hyll ac yn aml yn beryglus i’r adar niferus sy’n byw ar y llyn yn Stryt Las.
Dros y blynyddoedd rydym ni wedi tynnu arwyddion traffig, beiciau, miloedd o ganiau a photeli a’r trolïau siopa hynod boblogaidd o’r mwd.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn dal unrhyw bysgod sydd yn y llyn â rhwyd ac yn eu symud i bwll neu lyn arall sydd angen ei stocio. Rydym yn tynnu’r pysgod allan er budd y madfallod dŵr cribog prin sy’n byw ar y safle. Yn anffodus, mae pysgod yn hoffi bwyta’r madfallod dŵr cribog, a gan fod y fadfall yn rhywogaeth a warchodir a Stryt Las yn Ardal Cadwraeth Arbennig ddynodedig, mae’n rhaid cadw pysgod allan o’r pwll.
Mae’r hwyaid a’r elyrch sy’n byw ar y llyn yn Stryt Las yn rhydd i hedfan i byllau eraill, fel y maen nhw’n ei wneud yn aml, a dychwelyd yno’n nes ymlaen. Mae’r ceidwad yn gofyn i ymwelwyr beidio â bwydo’r hwyaid. Mae bwydo’r hwyaid a’r elyrch yn annog yr adar i fod yn llai ofnus o bobl, ac mae hynny’n eu gwneud yn fwy agored i niwed, yn enwedig gan gŵn – problem sy’n codi’n aml tra mae’r llyn yn cael ei ddraenio.
Os hoffech chi helpu’r ceidwaid i lanhau’r llyn, ffoniwch nhw ar 01978 822780. Ar ôl dal y pysgod a chlirio’r sbwriel, bydd y llyn yn cael ei adael i ail-lenwi’n naturiol.
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae llawer o bobl yn ymweld â’r parc hwn yn ystod misoedd y gaeaf, a bydd yr ymwelwyr rheolaidd wedi hen arfer â’r gwaith glanhau blynyddol hwn. Mae’r Ceidwaid yn gweithio’n galed i warchod yr Ardal Cadwraeth Arbennig, y madfallod gwarchodedig a’r bywyd gwyllt arall sy’n byw ar y safle.”
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR