Rydyn ni’n gofyn am eich help chi wrth i ni greu cynlluniau i wella llwybrau beicio a cherdded mewn trefi a phentrefi yn Wrecsam. Rydyn ni eisiau eu gwneud nhw’n llefydd gwell i fyw, gweithio ac ymweld â nhw ar hyd y llwybrau, fel mai teithio llesol yw’r ffordd arferol o deithio’n lleol.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Y cynlluniau ar gyfer rhai ardaloedd penodol yn Wrecsam; mae’r ardaloedd hyn mewn lliw tywyll ar y map rhyngweithiol ar https://wrexham.commonplace.is/#, https://wrexham.commonplace.is i’w gwneud yn haws i chi roi eich barn i ni.
Gallwch hefyd ddweud wrthym ni am bethau y tu allan i’r ardaloedd hyn, ond ein prif ffocws yw gwella ardaloedd lle mae’r angen mwyaf am newid a’r potensial mwyaf i fwy o bobl deithio’n llesol.
Dewiswyd y lleoliadau gan eu bod nhw wedi’u lleoli ger cyfleusterau mae pobl yn gwneud teithiau byr atyn nhw’n rheolaidd – ysgolion, canolfannau hamdden, safleoedd gwaith, ardaloedd siopa lleol a chyfnewidfeydd cludiant.
Mae Covid-19 wedi arwain at newid mawr, a phobl yn dewis cerdded neu feicio yn lle defnyddio’u ceir ac fe hoffem ni wneud yn siŵr ein bod yn barod i gefnogi’r cynnydd orau y gallwn.
Rydyn ni hefyd eisiau gwybod pa rwystrau rydych chi’n dod ar eu traws wrth ddefnyddio’r llwybrau cerdded a beicio. Ydyn nhw’n rhy fyr? Ydyn nhw’n rhy brin? Ydych chi’n teimlo’n ddiogel wrth eu defnyddio? A oes digon ohonynt?
Cymerwch ychydig funudau i gymryd rhan.
Mae’r ymgynghoriad ar fynd tan 25 Mehefin 2021 a byddwn yn defnyddio barn pobl i ddatblygu ein hisadeiledd yn y dyfodol, a bydd ymgynghoriad ffurfiol ar hynny yn nes ymlaen eleni.
Gallwch weld y map rhyngweithiol yma https://wrexham.commonplace.is/#
CANFOD Y FFEITHIAU