Erthygl Gwadd – Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Tirwedd Cenedlaethol
Ymunwch â’r Panel Dinasyddion Heddiw
Estynnir gwahoddiad i drigolion, gweithwyr ac ymwelwyr â Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy i chwarae rhan hollbwysig mewn llunio dyfodol un o dirweddau harddaf a mwyaf nodedig y DU yng Ngogledd Cymru .
I ddechrau, gall aelodau’r cyhoedd ychwanegu eu llais at yr hyn y maent yn ei feddwl sy’n gwneud Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn arbennig . Bydd y wybodaeth honno’n cael ei defnyddio i benderfynu pa rannau o’r dirwedd genedlaethol gydnabyddedig honno a fydd yn cael sylw a gofal arbennig ychwanegol.
Yn ogystal â hynny, bydd nifer gyfyngedig o bobl yn cael eu dewis i gymryd rhan mewn Panel Dinasyddion – sy’n cynnwys pobl gyffredin sy’n byw ac yn gweithio yn y dirwedd ac yn ymweld â hi – i roi ffocws i dîm a phartneriaid y Dirwedd Genedlaethol am y pum mlynedd nesaf .
“Mae hwn yn brosiect mor gyffrous. Rydym am gael pobl i gymryd rhan er mwyn helpu i lunio sut y gofelir am y dirwedd werthfawr hon a’i gwella ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol,” meddai David Shiel, Rheolwr Ardal Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. “P’un a ydych chi’n byw yn yr ardal, yn gweithio yma, neu’n ymwelydd, mae eich llais yn bwysig.”
Bydd y Panel yn trafod y tair prif thema ganlynol:
- Natur a Defnydd Tir – gan gynnwys adfer natur, newid yn yr hinsawdd a rheoli tir.
- Cymunedau a Gwydn – edrych ar wasanaethau, tai, cyflogaeth a thrafnidiaeth.
- Mwynhad a Lles – gan gynnwys twristiaeth, hamdden a pha fath o economi ymwelwyr sydd orau i’r ardal.
I gofrestru cliciwch ar y ddolen ganlynol
Y dyddiad cau i gofrestru yw 31 Gorffennaf 2025.
Aeth David Shiel ymlaen i ddweud, “Pwrpas Tirwedd Genedlaethol yw gwarchod a gwella harddwch naturiol y dirwedd. Ond nid dyna’r cyfan. Rhaid iddi hefyd gefnogi cymunedau ffyniannus, natur gwydn a thwristiaeth gynaliadwy. I wneud hynny’n dda, mae angen i ni glywed yn uniongyrchol gan y bobl sy’n adnabod ac yn mwynhau’r ardal orau.”
Mwy o gwybodaeth
Beth Sy’n Gwneud Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Mor Arbennig?
Yn ymestyn o lethrau arfordirol Mynydd Prestatyn yn y gogledd i Fynyddoedd anghysbell y Berwyn a Thraphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte yn y de, mae’r Dirwedd Genedlaethol hon yn cwmpasu 390 cilomedr sgwâr o fryniau, rhostiroedd, tir fferm, clogwyni a dyffrynnoedd afonydd.
Mae’n lle o gyferbyniad a harddwch – o fryngaerau Oes yr Haearn Bryniau Clwyd sydd wedi’u gorchuddio â grug i sgarp calchfaen trawiadol Eglwyseg, a rhostiroedd tonnog Llandegla. Ond mae hefyd yn dirwedd sy’n fyw ac yn weithredol – cartref i gymunedau, busnesau, ac un sy’n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr.
Mae’r Dirwedd Genedlaethol yn gorwedd o fewn rhannau o Sir Dinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Mae’n gyfrifoldeb ar y tri awdurdod lleol hyn i sicrhau rheolaeth dda o’r Dirwedd Genedlaethol trwy’r Cyd-bwyllgor a’r Grŵp Partneriaeth.
Gall ymatebwyr glicio ar y ddolen hon i ychwanegu eu barn ynglŷn â’r hyn sy’n gwneud Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy Mor Arbennig:
Bydd copïau caled o’r holiadur yn cael eu gadael yn Swyddfeydd Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn Loggerheads.
Bydd 15 o bobl o amrywiaeth o gefndiroedd, oedrannau a diddordebau yn cael eu gwahodd i ymuno â’r Panel Dinasyddion. Gallant fod yn:
• Breswylydd lleol neu rywun sy’n gweithio yn yr ardal
• Ymwelydd rheolaidd sy’n gwerthfawrogi’r dirwedd
• Rhywun sydd â diddordeb mewn ffermio, twristiaeth, cadwraeth, treftadaeth, mynediad, iechyd neu fywyd cymunedol
Gall unrhyw un sydd â diddordeb gofrestru a mynegi eu diddordeb mewn ymuno â’r Panel Dinasyddion trwy clicio yma.
Neu gallent ymweld â Swyddfeydd Tirwedd Genedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn Loggerheads.
Hysbysir ymgeiswyr llwyddiannus ym mis Awst 2025.
I gofrestru neu i gael gwybod rhagor cliciwch yma