Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi cyhoeddi y bydd gwasanaethau bws yn dychwelyd i Newbridge, Pentre a Whitehurst o ddydd Sul 16 Tachwedd 2025.
Ers 2021, pan gaewyd y ffordd oherwydd difrod a achoswyd gan Storm Christoph, mae gwasanaethau bws rhwng Wrecsam a Chroesoswallt wedi cael eu gorfodi i ddargyfeirio ar hyd yr A483 rhwng Rhiwabon a’r Waun.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Tai a Newid Hinsawdd, “Rwy’n falch o allu cyhoeddi bod gwasanaethau bws yn dychwelyd yn ardal Newbridge yn gynt na’r cynllun, yn dilyn trafodaethau cadarnhaol gydag Arriva a swyddfa’r Comisiynydd Traffig. Rydym yn ymwybodol o anghenion pobl leol i adfer gwasanaethau bws ac yn gweld hyn fel cam cadarnhaol ar ôl ailagor y B5605 trwy Newbridge.
“Hoffwn ddiolch i Arriva North West & Wales, sydd wedi cynorthwyo i wneud hyn yn bosibl o fewn eu gweithrediadau. Mae llawer o waith parhaus wedi bod yn y cefndir”.
Ychwanegodd Adam Marshall, Pennaeth Masnachol Ardal Arriva North West & Wales: “Rydym bob amser yn falch o allu cyflwyno gwasanaethau bws mewn ardaloedd lle mae bwlch yn y ddarpariaeth. Er bod yr amgylchiadau hyn ychydig yn wahanol, nid yw’n llai pwysig gallu dychwelyd gwasanaethau 2 a 2A rhwng Wrecsam a Chroesoswallt i’w llwybr gwreiddiol drwy Newbridge. Hoffwn hefyd ddiolch i Gyngor Wrecsam am eu cymorth i’w gwneud hi’n bosibl gweithredu’r newid hwn yn gynt nag oeddem wedi’i ddisgwyl yn wreiddiol”.
Gellir dod o hyd i fanylion yr amserlen ar-lein yn https://www.arrivabus.co.uk/wales


