Mae manylion wedi’u cadarnhau ynghylch gwasanaethau Dydd y Cadoediad a Sul y Cofio yng nghanol tref Wrecsam eleni.
Dydd y Cadoediad
Bydd dau funud o dawelwch yn cael ei gynnal ar Sgwâr y Frenhines ddydd Sadwrn 11 Tachwedd 11am.
Am 10.59am, bydd biwglwr yn senio’r ‘Post Olaf’, sef Seiren y Rhyfel i rybuddio am ymosodiad o’r awyr, a bydd y distawrwydd yn cael ei arsylwi.
Gwahoddir aelodau o’r cyhoedd.
Sul y Cofio
Bydd y Gwasanaeth Cofio Blynyddol yn cael ei gynnal wrth y Gofeb y RWF, Bodhyfryd (wrth y Neuadd Goffa oddi ar Stryt Caer), ddydd Sul 12 Tachwedd am 10.55am a gwahoddir aelodau o’r cyhoedd.
Mae’r Gorchymyn Gwasanaeth ar gael i’w lawrlwytho yma, a bydd copïau ar gael ar y diwrnod hefyd.
Dylai aelodau o’r cyhoedd nodi y bydd ffensys yn cael eu gosod am 10.30am yn y lleoliadau canlynol er mwyn i’r parêd allu parhau yn ddiogel ac i ddiogelu’r ardal:
• Stryt Caer (gerllaw hen dafarn y Feathers)
• Stryt Holt (wrth ymyl tafarn y Welch Fusilier)
• Ffordd Caer (wrth ymyl cylchfan Ffordd Caer/Ffordd Powell)
Bydd mynediad i Faes Parcio Bodhyfryd ger Byd Dŵr, felly, ar gael tan 10.30am.
Bydd cyfleusterau ar gael ar gyfer pobl oedrannus, anabl neu fethedig i ddilyn y gwasanaeth y tu mewn i’r Neuadd Goffa, os dymunent.
LAWRLWYTHO’R GORCHYMYN GWASANAETH