Maethu rhai yn eu harddegau?
Ydi hwn yn rhywbeth rydych chi wedi’i ystyried ond heb fod yn siŵr a fyddech chi’n gallu ei wneud? Beth am ddarllen beth ddywedodd un o’n gofalwyr maeth isod ac wedyn, o bosib’, gymryd y cam cyntaf i gael gwybod mwy?
“Ar ôl dod yn ofalwyr maeth roeddwn i’n meddwl ‘Dydyn ni DDIM yn cael plant yn eu harddegau’. Dim ond ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach y cawsom ni ferch ifanc yng nghanol ei harddegau.
“Roedd hi’n waith caled ar y dechrau ac yn gofyn llawer, ond ar ôl i’r DDWY ochr gyfaddawdu rhywfaint, mi setlodd yn dda a symudodd ymlaen o’i gwirfodd pan oedd yn un ar bymtheg oed. Mae wedi parhau i gadw cysylltiad ac mae bellach yn byw’n hapus yn Lerpwl.
“Ers iddi adael, rydyn ni wedi cael nifer o leoliadau llwyddiannus o blant eraill yn eu harddegau, bu i’n lleoliad hiraf adael yn ddiweddar yn 21 oed.
“Dros y blynyddoedd, mae gofalu am blant yn eu harddegau wedi rhoi gymaint o foddhad â’r rhai iau, ac rydyn ni’n falch iawn ein bod ni wedi gallu helpu i siapio ac arwain yr unigolion ifanc sydd wedi bod yn ein gofal.”
Mwy o wybodaeth
Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth a rhoi cartref cariadus a sefydlog i blentyn ffynnu a thyfu? Dychmygwch mor dda fyddai’r teimlad o helpu rhywun yn eu harddegau i gael swydd neu i fynd i’r coleg neu brifysgol.
Mae mwy o wybodaeth am faethu yma.
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN