Rhoddwyd croeso cynnes i’n Prif Weithredwr nesaf Ian Bancroft pan alwodd heibio i gyfarfod y Bwrdd Gweithredol y mis hwn.
Bu Ian, a fydd yn dechrau ei swydd ddiwedd mis Awst, yn gwrando ar drafodion a chwrdd â phrif Gynghorwyr yn Neuadd y Dref.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Fel rhywun sy’n byw yn Wrecsam, mae bob amser wedi dangos diddordeb brwd yng ngwaith y Cyngor. Ond – fel y byddech yn ei ddisgwyl – mae’r diddordeb hwn wedi cyrraedd lefel hollol newydd, oherwydd y bydd yn cymryd rôl allweddol wrth yrru cynlluniau yn eu blaenau o ran ein heconomi, gwasanaethau a’n cymunedau.
Mae Ian wedi gweithio i ni yn y gorffennol, 14 blynedd yn ôl, cyn dechrau ei rolau arweinyddiaeth mewn digwyddiadau cyhoeddus ym Manceinion, Glannau Mersi a Sir y Fflint.
Mae’n edrych ymlaen i ddychwelyd, meddai: “Rwyf yn caru Wrecsam ac yn methu aros i roi fy nghalon a’m enaid i’r swydd hon. Rwyf wedi bod yn brysur yn dod i adnabod Uwch Swyddogion a Chynghorwyr, ac rwyf yn bwriadu gweithredu yn syth pan fyddaf yn dechrau ym mis Awst. Dyma gyfnod heriol ar draws y DU, ond mae Wrecsam yn lle gwych gyda llwyth o botensial.
“Gydag arweinyddiaeth gref a gan weithio gyda’n gilydd, rwyf yn hyderus y gallwn ymestyn ein heconomi a darparu gwasanaethau effeithiol i gryfhau ein cymunedau.”
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB