NODWCH – Mae’r ymgynghoriad hon wedi ei gau
Sut allwn ni ofalu am ein treftadaeth…a chael y gorau ohono?
Fe hoffem ni glywed eich barn chi.
Ein treftadaeth ni yw ein stori ni. Yr adeiladau, y tirnodau, y gwrthrychau, y bobl – maen nhw i gyd yn unigryw a does dim all gymryd eu lle.
Maen nhw’n rhoi synnwyr o hunaniaeth yn Wrecsam i nifer ohonom ni ac yn cynrychioli swm ein profiadau trwy’r oesoedd – y pethau rydym ni wedi’u gwneud, y gwahaniaeth rydym ni wedi’i wneud, y gwersi rydym ni wedi’u dysgu (a’r rheiny na wnaethom ni mo’u dysgu).
Mae treftadaeth hefyd yn hynod bwysig i’n heconomi ni. Yng Nghymru, mae’r sector yn cefnogi’n agos at 40,000 o swyddi ac yn cynhyrchu £749m y flwyddyn.
Mae hefyd yn un o’r rhesymau pam fod Gogledd Cymru yn gyrchfan wyliau boblogaidd (cyhoeddodd Lonely Plant yn ddiweddar mai dyma’r pedwerydd lle gorau i ymweld ag ef yn y byd).
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Mae’r oes wedi newid
Cyhoeddodd Cyngor Wrecsam ei strategaeth dreftadaeth ddiwethaf yn 2005. Ond mae pwysau ar wariant cyhoeddus yn y blynyddoedd diweddar wedi gorfodi rhai penderfyniadau anodd, gydag amgueddfeydd y Mwynglawdd, Gwaith Haearn y Bers a Chanolfan Dreftadaeth y Bers wedi cau.
Felly mae’r oes wedi newid ac mae angen cynllun gwahanol arnom ni i symud ymlaen.
Credwn y bydd ein strategaeth newydd yn ein helpu i greu sector sy’n gwneud defnydd effeithiol o dreftadaeth er lles yr economi. Ac yn bwysicach fyth, yn helpu’r fwrdeistref sirol i ofalu am ei gorffennol…er mwyn i bawb gael ei fwynhau.
Ond cyn i ni fabwysiadu’r cynllun newydd yma, fe hoffem ni glywed eich barn chi. Felly fyddech chi cystal â threulio tua 10 munud yn darllen drwy’r cynllun ac yn llenwi’n holiadur ni?
Dweud eich dweud
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl: “Mae treftadaeth yn helpu i diffinio ni fel unigolion, fel cymuned ac fel cenedl. Mae hefyd yn rhan bwysig o’r economi yng Nghymru, yn cefnogi swyddi a buddsoddiad.
“Mae ein treftadaeth yn Wrecsam yn dod ar sawl ffurf – o gestyll, plastai a chyn byllau glo, i eiriau a gwrthrychau o’r gorffennol sy’n cael eu gwarchod yn ein hamgueddfeydd.
“Mae’n bwysig i ni ofalu am ein treftadaeth, felly, da chi, ewch i gael golwg ar ein strategaeth newydd a rhoi’ch barn i ni amdani. Os ydym ni am gael y gorau o’n gorffennol, mae angen cynllun da arnom ni ar gyfer y dyfodol.”
Mae’r ymgynghoriad ar agor tan ddydd Llun, Hydref 15, 2018. Ewch i Eich Llais Wrecsam i gymryd rhan.
YDW…RYDW I EISIAU CYMRYD RHAN DIM DIOLCH…DWI’N IAWN
Mae copïau papur o’r ymgynghoriad ar gael yn Amgueddfa Wrecsam ac yn y llyfrgelloedd lleol.
Bydd y strategaeth ddrafft yn cael ei chyflwyno i Fwrdd Gweithredol y cyngor yn nes ymlaen eleni i’w mabwysiadu’n ffurfiol.