Erthygl wadd – Hosbis Tŷ’r Eos
A oes gennych chi awydd gwneud ychydig o ymarfer corff wrth godi arian at achos da? Os felly, beth am ymuno â’r digwyddiad 5km neu 10km a gynhelir ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun ddydd Sadwrn, 30 Mawrth, o 10am tan 1pm?
Gwahoddir rhedwyr o bob gallu i gymryd rhan yn y digwyddiad aml-dirwedd golygfaol, cynhwysol, hwn. Bydd y llwybr yn weddol hawdd rhedeg arno, gyda rhywfaint o wrymiau i roi ychydig o her a mwynhad i bawb.
Mae’r holl ffioedd mynediad a chodi arian yn mynd yn uniongyrchol i gefnogi gofal cleifion yn Hosbis Tŷ’r Eos.
Rasys ac isafswm oedran
- 5km – 11 mlwydd oed a hŷn
- 10km – 15 mlwydd oed a hŷn
- Ras fer 1km i blant (yn agored ar gyfer cofrestru ar y diwrnod yn unig)
Cewch y canlynol am gymryd rhan
- Canlyniadau wedi eu hamseru â sglodyn
- Medal am orffen
- Awyrgylch ardderchog gydag adloniant a stondinau gyda lluniaeth wedi’r ras!
Erbyn pryd mae angen cofrestru?
Os ydych eisiau cymryd rhan, bydd rhaid i chi gofrestru erbyn 11.55pm ddydd Mercher, 21 Mawrth 2024.
Canfod mwy a chofrestru
Gellwch gofrestru ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar wefan Hosbis Tŷ’r Eos.