Ydych chi’n un o’n tenantiaid Tai Cyngor? Neu efallai eich bod yn perthyn i gymdeithas dai?
Efallai eich bod yn ymwybodol o hyn eisoes, ond bydd Hawl i Brynu yn dod i ben yng Nghymru, ddydd Sadwrn, 26 Ionawr.
Mae’n dilyn penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth Cymru nôl yn 2017.
Os ydych chi wedi bod yn ystyried prynu eich tŷ cyngor, bydd gofyn i chi gyflwyno ffurflen gais i’ch landlord – ni, neu eich cymdeithas dai, yn dibynnu ar eich amgylchiadau – dim hwyrach na 25 Ionawr (ni fydd unrhyw geisiadau sy’n dod i law ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu derbyn).
Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Lywodraeth Cymru yma, sy’n nodi os ydych yn gymwys i brynu eich cartref ai peidio, ynghyd â manylion eraill.
Os ydych eisoes wedi gwneud cais, peidiwch â phoeni am y dyddiad cau. Byddwn yn prosesu’r ceisiadau rydym wedi eu derbyn yn y ffordd arferol, ac ni fydd y dyddiad cau yn eu heffeithio.
“Mae’r cloc yn tician – peidiwch â cholli cyfle”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Wrth i’r Hawl i Brynu ddod i ben, rydym yn ymwybodol bod sawl un nad ydynt yn gwybod bod y terfyn amser yn agosáu, ac efallai bod ganddynt ddiddordeb mewn prynu eu tŷ cyngor.
“Os felly, mae angen iddynt wneud sylwadau cyn 25 Ionawr – i ni, neu eu cymdeithas dai, yn dibynnau ar bwy yw’r landlord.
“Dyma’r cyfle olaf y caiff bobl i brynu eu tai cyngor, ac mae’r cloc yn tician. Os oes ganddynt ddiddordeb, ni ddylent golli’r cyfle.”
Os ydych chi’n denant yng Nghyngor Wrecsam, ac mae gennych ddiddordeb mewn prynu eich cartref, cysylltwch â ni ar 01978 298993 neu anfonwch neges e-bost at HESupport@wrexham.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR