Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dyn a’i fan… ymhle maent yn gwaredu eich sbwriel?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Dyn a’i fan… ymhle maent yn gwaredu eich sbwriel?
Pobl a lleY cyngor

Dyn a’i fan… ymhle maent yn gwaredu eich sbwriel?

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 25, 2020 2:52 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
man
RHANNU

Mae ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar gyfer gwastraff o gartrefi trigolion Wrecsam yn unig. Ni ellir gwaredu gwastraff masnachol yn y safleoedd hyn, gan gynnwys gwaredu sbwriel gan wasanaethau clirio ‘dyn a’i fan’.

Cynnwys
  • Byddwch yn ymwybodol – dim gwastraff masnach!
  • “Ni fyddwn yn oedi cyn erlyn”
  • Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus Cyngor Wrecsam…
  • Rydym yn derbyn:
  • Ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref

Os oes gennych lawer iawn o sbwriel i’w waredu, sicrhewch eich bod yn defnyddio cwmni gydag enw da i wneud hyn ar eich rhan. Ni all y cwmni sy’n gweithredu ar eich rhan waredu’r eitemau yn ein canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref, rhaid iddynt ei waredu mewn cyfleuster trwyddedig preifat.

Mae nifer o achlysuron lle mae pobl wedi talu rhywun i waredu eu sbwriel, heb sylweddoli eu bod yn cymryd eu harian a gwaredu’r sbwriel lle bynnag y gallent. Gall hyn eich gadael chi’n atebol os y gellir olrhain y sbwriel yn ôl atoch chi.

COFRESTRWCH I DDERBYN HYSBYSIADAU GWEITHGARWCH GRAEANU

Byddwch yn ymwybodol – dim gwastraff masnach!

Mae system adnabod cerbydau yn gweithredu yn y tair Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref a bydd ymwelwyr rheolaidd mewn faniau yn cael eu herio a gofynnir iddynt lenwi ffurflenni ‘ymwadiad gwastraff masnachol’, er mwyn sicrhau nad yw’r safleoedd hyn yn cael eu camddefnyddio gan fasnachwyr. Er mwyn cadw’r safleoedd yn glir o wastraff masnach, gall Adran yr Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint, sy’n rheoli’r safleoedd ar ran y Cyngor, wahardd yr unigolion hyn o’r tri safle.

Felly, os ydych yn talu rhywun i waredu eich sbwriel, sicrhewch eu bod yn fasnachwyr gonest. Dylent fod â Thrwydded Cludydd Gwastraff. Os nad oes ganddynt y drwydded hon, peidiwch â’u defnyddio – yn fwy na thebyg byddent yn tipio’r gwastraff yn anghyfreithlon a chi fydd yn gyfrifol ac yn atebol i erlyniad os cânt eu dal neu os gellir olrhain y sbwriel yn ôl i chi.

“Ni fyddwn yn oedi cyn erlyn”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae enghreifftiau ysgytiol o dipio anghyfreithlon ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae’n costio arian i’w waredu. Rydym bob amser yn gwirio os oes unrhyw beth yn y sbwriel er mwyn canfod y perchennog, ac os oes, ni fyddwn yn oedi cyn erlyn. Defnyddiwch gwmni gydag enw da neu ddefnyddiwch ein gwasanaeth casgliadau swmpus neu ymwelwch ag un o’n tair canolfan ailgylchu gwastraff y cartref. Peidiwch â mentro a bod yn agored i erlyniad, oherwydd ymddygiad amheus rhywun arall.”

Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus Cyngor Wrecsam…

Gallwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth casglu gwastraff swmpus Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae gwastraff swmpus yn golygu eitemau sy’n rhy fawr i gael eu casglu gan y gwasanaeth gwastraff arferol. Golyga hyn eitemau megis dodrefn, nwyddau gwyn ac offer yr ardd. Gellir casglu hyd ar wyth eitem am isafswm o £43.50. Bydd ffi ychwanegol ar gyfer casglu unrhyw eitem ychwanegol dros yr wyth eitem.

Rydym yn derbyn:

• Dodrefn (e.e. byrddau, cadeiriau, swît, gwelyau, matresi , cabinetau, desgiau, silffoedd llyfrau, cypyrddau dillad).
• Nwyddau gwyn (e.e. oergelloedd, rhewgelloedd, poptai, peiriannau sychu dillad, microdonnau).
• Offer yr ardd (e.e. peiriannau torri gwair bychain, teclynnau’r ardd, byrddau a chadeiriau’r ardd, barbeciws, beiciau).
• Carpedi (symiau bychain o garpedi ac isgarpedi (darnau heb fod yn fwy na maint 1 ystafell).
• Cyfarpar trydanol ac electronig (e.e. cyfrifiaduron, teledu).
Mae’r Cyngor ond yn cynnig casgliad ymyl palmant o wastraff gardd/organig yn y bin gwyrdd, nid ydym yn cynnig unrhyw wasanaeth casglu arall ar gyfer gwastraff gwyrdd, pridd na rwbel.

Bydd casgliadau swmpus fel arfer yn cael eu cyflawni ar eich diwrnod casglu nesaf, os y byddwch yn hysbysu 2 ddiwrnod gwaith ymlaen llaw. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y casgliadau swmpus yma

Ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref

  • Mae Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Bryn Lane ar agor o 8am – 8pm bob dydd o’r flwyddyn oni bai am Ddydd Nadolig.
  • Ar hyn o bryd mae Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ym Mhlas Madoc a The Lodge ar agor o 9am – 4pm

Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new”] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol fostering information Wedi meddwl am faethu erioed? Dewch draw i’n noson wybodaeth maethu!
Erthygl nesaf Borras Park School Planet Eco Council Mae disgyblion yn Wrecsam yn ceisio helpu ein planed…ac maent yn eich herio chithau i wneud yr un fath

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 17, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English