Mae dyn lleol wedi pledio’n euog yn Llys Ynadon Wrecsam ar ôl iddo droi tenant allan drwy aflonyddu meddiannydd yr eiddo yn anghyfreithlon a wnaeth ei adael heb unrhyw ddewis ond rhoi i fyny ei breswyliad o’i eiddo rhent.
Mae’r cyhuddiadau yn berthnasol i achosion ym mis Ebrill pan roedd Mr Dave Darby wedi ymddwyn mewn ffordd oedd wedi’i fwriadu i ymyrryd â heddwch a chysur y tenant oedd yn byw yng Ngerddi Grosvenor yn Wrecsam drwy dynnu gwasanaethau yn ôl, rhoi gwybod i’r tenant fod ganddo lai nag wythnos i adael yr eiddo a mynd ati i wagio’r eiddo o’i gynnwys a newid y cloeon ar yr holl ddrysau.
Yn ystod yr amser byr roedd y troseddau wedi achosi difrod i eiddo’r tenant.
Roedd y cyhuddiadau o ganlyniad i Mr Darby yn methu â chyflwyno’r rhybudd angenrheidiol i ddod â’r denantiaeth i ben neu i gael gorchymyn llys i droi’r tenant allan yn gyfreithlon. Ar amser y troseddau roedd rhwymedigaeth gyfreithiol arno i roi rhybudd o chwe mis i’r tenant cyn dod a’r denantiaeth i ben.
Cafodd Mr Darby ddirwy o £100, ac fe’i orchmynnwyd i dalu costau o £200 a thâl dioddefwr o £35.
Cyflwynwyd y cyhuddiadau gan Wasanaethau Gwarchod Y Cyhoedd Cyngor Wrecsam.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN