Mae Safonau Masnach Wrecsam wedi derbyn adroddiad sy’n peri pryder ynghylch dyn yn honni ar gam ei fod yn gweithio i “fwrdd nwy a dŵr” Cyngor Wrecsam er mwyn cael mynediad at eiddo.
Ymwelodd y dyn â dynes yn ei chartref yng Ngwersyllt, a phan ofynnwyd iddo ddangos cerdyn adnabod dilys, ni lwyddodd i wneud hynny.
Roedd y ddynes yn amheus o hyn, felly penderfynodd ffonio Cyngor Wrecsam, a chadarnhawyd nad oedd y dyn yn gweithio i’n gwasanaeth.
Byddwch yn ymwybodol os gwelwch yn dda nad oes gan Gyngor Wrecsam ‘fwrdd dŵr’ ac y byddai pob darparwr gwasanaeth, megis Hafren Dyfrdwy (ein cwmni dŵr lleol) yn trefnu apwyntiad cyn ymweld â chartrefi. Ni fyddent yn galw heibio yn ddirybudd gan ddisgwyl cael mynediad at eich cartref.
Nid dyma ddiwedd y mater fodd bynnag. Dychwelodd y masnachwr yn ddiweddarach gyda dyn arall, yn llawer mwy ymosodol y tro hwn gan guro wrth y drws ac ysgwyd yr handlen er mwyn ceisio cael mynediad, roedd y ddynes a’i gŵr wedi dechrau teimlo’n ofnus iawn o ganlyniad.
Dywedodd Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu: “Mae’n braf gweld fod deiliad y tŷ wedi synhwyro bod y galwr yn amheus ac wedi cymryd camau i amddiffyn ei hun yn yr achos hwn. Fodd bynnag, nid dyma yw’r achos bob tro.
“Mae nifer o bobl sy’n wynebu’r sefyllfa hon naill ai’n cael eu swyno gan gwrteisi’r galwr neu’n teimlo dan fygythiad, ac o ganlyniad yn profi trosedd ar stepen y drws, gan dalu llawer o arian am waith diangen o ansawdd gwael.
“Fe ddylai unrhyw ddeiliaid tŷ sy’n wynebu sefyllfa pan fo unigolyn wrth y drws yn honni eu bod yn gweithio i’r cyngor neu unrhyw sefydliad arall, wirio â’r sefydliad yn uniongyrchol i gadarnhau a yw’r unigolyn yn dweud y gwir. Bydd unrhyw weithiwr dilys yn deall hynny’n iawn ac yn fodlon aros i chi gwblhau’r gwiriad.
“Os na allwch chi fod yn siŵr a yw’r unigolyn yn dweud y gwir neu beidio, peidiwch â’u gadael i mewn i’ch cartref a pheidiwch â rhannu gwybodaeth bersonol â nhw. Os yw’r unigolyn yn dechrau ymddwyn yn ymosodol neu os ydych yn dechrau teimlo dan fygythiad, ffoniwch yr Heddlu.
“Rwy’n annog preswylwyr i fod yn ymwybodol o’r twyllwyr hyn, rhowch wybod am unrhyw beth amheus yn eich ardal a chofiwch ofalu am eich ffrindiau, teulu a chymdogion a allai fod yn agored i niwed”.
Os hoffech chi roi gwybod am rywbeth amheus, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040506 neu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101.
Os hoffech chi wneud cwyn neu dderbyn cyngor am nwyddau neu wasanaethau rydych chi wedi’u prynu, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.
Cadwch yn ddiogel rhag twyllwyr gyda’n rhybuddion!
Cofrestrwch i gael rhybuddion am sgamiau yma!