Hoffech chi ddatblygu eich hyder neu ydych chi angen cymorth i oresgyn y rhwystrau sy’n eich hatal rhag dysgu?
Ydych chi’n 16 neu’n hŷn ac angen cymorth i wella eich Saesneg, mathemateg neu sgiliau digidol?
Ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn, yn ddi-waith ac yn byw yn Wrecsam? Ydych chi angen hyfforddiant i’ch helpu i gael gwaith?
Ydych chi’n 50 neu’n hŷn ac eisiau gwella eich sgiliau digidol i allu cymryd mwy o ran yn eich cymuned?
Gall Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Wrecsam eich cefnogi gyda chyngor ac arweiniad i fynychu cyrsiau hyfforddi mewn lleoliadau cymunedol ar draws Wrecsam.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gweithio mewn partneriaeth gyda Choleg Cambria, Prifysgol
Glyndŵr, Addysg Oedolion Cymru, Llyfrgelloedd a Diwylliant, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam, Canolfan Waith Wrecsam, Cymunedau am Waith/Cymunedau am Waith a Mwy a Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam. Mae nifer fawr o ddarparwyr wedi’u cynnwys hefyd.
Ein nod yw darparu cyrsiau sydd yn bodloni eich anghenion. Beth am gysylltu â ni i ddarganfod os gallwn ni eich helpu?
I gael rhagor o wybodaeth neu i ymholi, cysylltwch â Swyddog Datblygu Dysgu Oedolion yn y Gymuned acl@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 317957
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG