Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sicrhau £1.52 ar gyfer Cynllun Treftadaeth Treflun
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Sicrhau £1.52 ar gyfer Cynllun Treftadaeth Treflun
Y cyngor

Sicrhau £1.52 ar gyfer Cynllun Treftadaeth Treflun

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 19, 2020 5:02 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Townscape Heritage Scheme
RHANNU

Efallai eich bod wedi clywed y newyddion da diweddar ein bod wedi sicrhau £1.52 miliwn gan y Loteri Genedlaethol ar gyfer Cynllun Treftadaeth Treflun, a gaiff ei gyflawni yn Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam ar gyfer gwelliannau sy’n canolbwyntio ar adfywio treftadaeth.

Nod Cynllun Treftadaeth Treflun yw targedu adeiladau pwysig yn Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam i’w hadfywio a/neu eu hadnewyddu, gyda’r bwriad o atgyweirio eu nodweddion treftadaeth mwyaf amlwg a deniadol, gan olygu bod defnydd economaidd iddynt eto.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae grantiau bellach ar gael ar gyfer perchnogion eiddo/prydleswyr (gydag o leiaf 10 mlynedd yn weddill ar y brydles) ar yr adeiladau targed yma. Bwriad y cyllid grant yw adnewyddu rhai o’r adeiladau hynaf o fewn ffiniau’r Cynllun Treftadaeth Treflun, ac adfer elfennau pensaernïol a hanesyddol yr adeiladau, a gwella’r pethau sy’n eu gwneud yn bensaernïol unigryw.

Bydd y Cynllun Treftadaeth Treflun (CTT) yn darparu cyfle ardderchog i’n gweithluoedd lleol hyfforddi ac uwchsgilio’n berthnasol trwy’r contractau sy’n cael eu darparu trwy raglen y CTT, trwy eu cysylltu gyda rhaglen sgiliau adeiladu traddodiadol; gan sicrhau bod gweithlu medrus yn gallu ymgymryd â’r gwaith treftadaeth yn lleol ac yn rhanbarthol yn y dyfodol.

Mae’r rhaglen sgiliau adeiladu traddodiadol wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei gyllido gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Mae hyn yn newyddion gwych ar gyfer yr ardal adfywio yng nghanol y dref ac ar gyfer crefftwyr lleol a fydd yn gallu sicrhau nad yw’r sgiliau adeiladu traddodiadol yn cael eu colli. Diolch yn fawr i’r Loteri Genedlaethol am y cyllid, ac i’r swyddogion.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch THS@wrexham.gov.uk i drefnu cyfarfod, neu drafodaeth anffurfiol.

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Community Dysgu Oedolion yn y Gymuned Wrecsam
Erthygl nesaf A fyddech chi’n gwybod os oedd rhywun yn destun camfanteisio? Darllenwch yr isod i wybod beth yw’r arwyddion A fyddech chi’n gwybod os oedd rhywun yn destun camfanteisio? Darllenwch yr isod i wybod beth yw’r arwyddion

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 6, 2026
The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Y cyngor

Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English